AS yn cyflwyno’r achos dros gefnogaeth i'r hunangyflogedig a busnesau bach Ceredigion yn y Gyllideb

ming-jun-tan-o6ICDlt5_2k-unsplash.jpg

Mae  Ben Lake AS wedi galw ar y Canghellor Rishi Sunak i ymestyn pecyn cymorth ariannol y llywodraeth ar gyfer busnesau a gweithwyr hunangyflogedig yng Nghyllideb yr wythnos nesaf wrth i lawer ei chael yn anodd cadw eu pen uwch ben y dŵr yn ystod cyfyngiadau clo parhaus.

Bydd y Canghellor, Rishi Sunak yn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth y DU ddydd Mercher 3 Mawrth, bron i flwyddyn ers y Gyllideb ddiwethaf ar 11 Mawrth 2020.

Er mwyn helpu busnesau a'r stryd fawr yn lleol dros y misoedd nesaf, mae AS Ceredigion wedi galw ar y Canghellor i ymestyn y gyfradd TAW is ar 5% ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth am flwyddyn hyd at Fawrth 2022 ac i ymestyn y pecyn rhyddhad ardrethi busnes.

Galwodd Mr Lake hefyd ar y Canghellor i barhau â’r Cynllun Ffyrlo trwy gydol cyfyngiadau’r pandemig, gan fod ffigurau diweddar yn dangos bod mwy na 178,000* yng Nghymru yn dal i dderbyn cymorth y llywodraeth gan y Cynllun Ffyrlo.  Mae hefyd yn annog y Canghellor i ehangu'r meini prawf cymhwysedd presennol ar gyfer y  Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig er mwyn cynnig rhywfaint o help i nifer fawr o unigolion sydd heb dderbyn ceiniog o gefnogaeth gan y Llywodraeth hyd yn hyn.

Dywedodd Ben Lake AS: “I lawer o fusnesau a gweithwyr hunangyflogedig, mae’r cymorth ariannol sydd wedi'i gynnig gan y Llywodraeth dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn achubiaeth. Nawr, gan ein bod o'r diwedd yn dechrau gweld golau ar ddiwedd twnnel y cyfnod clo, ni allwn gael gwared ar y cymorth yma yn gynamserol. Byddai ymestyn yr help hwn am ychydig yn hirach, ac ehangu’r meini prawf i helpu’r rhai sydd wedi’u heithrio hyd yma, yn cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar fusnesau bach i “adfer yn dilyn y pandemig.”

Bellach mae disgwyl i lawer o fusnesau nad ydynt ar agor o hyd oherwydd y mesurau clo ddechrau ad-dalu eu Benthyciadau Adfer. Mae hyn er nad yw eu sefyllfa wedi newid ryw lawer ers iddynt gymryd y benthyciad, neu mewn rhai achosion anffodus, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu gan nad ydynt wedi gallu masnachu eto.

Mae UKHospitality wedi amcangyfrif bod y sector lletygarwch wedi colli tua £72 biliwn mewn gwerthiannau yn 2020 ac yn wynebu, a dweud y gwir, fynydd dyled, gan gynnwys £4.2 biliwn mewn benthyciadau a gefnogir gan y wladwriaeth.

Dywedodd Mr Lake:“Mae’n bwysig nad yw busnesau sydd wedi cael benthyciadau adfer a CBILS ddim yn gorfod dechrau ad-dalu nes eu bod mewn sefyllfa i wneud hynny  - unwaith y byddant wedi dechrau ‘adfer’ o’r pandemig. Byddai gallu bod mor hyblyg, a thrwy hynny atal methiannau busnes y gellir eu hosgoi, yn amddiffyn swyddi, buddsoddiad y trethdalwr yn yr adferiad, ac uniondeb ein system ariannol.

“Rydym yn parhau i fod yng nghamau cynnar adferiad sy’n cael ei arwain gan y brechlyn, ac mae’n debygol y bydd gennym ryw fath o gyfyngiadau am fisoedd lawer i ddod.   Ar ôl gwneud cymaint i amddiffyn yr economi a’r gweithlu, rhaid inni beidio â thynnu cefnogaeth yn ôl yn gynamserol, gan y byddai gwneud hynny yn peryglu’r buddsoddiad y mae trethdalwyr wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac o bosibl ein hadferiad economaidd."

 

https://www.gov.uk/government/statistics/coronavirus-job-retention-scheme-statistics-february-2021/coronavirus-job-retention-scheme-statistics-february-2021 


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-03-03 09:03:36 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.