Cyllideb 2021: Rhaid blaenoriaethu goroesiad y sector lletygarwch

nikola-jovanovic-QGPmWrclELg-unsplash.jpg

Ben Lake AS yn annog y Canghellor i ymestyn y gefnogaeth ar gyfer lletygarwch i 2022 

Heddiw (18 Chwefror 2021) mae llefarydd Trysorlys Plaid Cymru, Ben Lake AS, wedi annog y Canghellor i flaenoriaethu goroesiad y sector lletygarwch yng Nghyllideb 2021, trwy ymestyn y cynllun ffyrlo a chadw'r gyfradd TAW is ar gyfer y sector. Byddai methu â gwneud hynny “nid yn unig yn ergyd i’r sector ond hefyd i’r economi ehangach yng Ngheredigion”, yn ôl AS Plaid Cymru. 

Bydd y Canghellor, Rishi Sunak yn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth y DU ar ddydd Mercher 3 Mawrth, bron i flwyddyn ers y Gyllideb ddiwethaf ar 11 Mawrth 2020. 

O bob gwlad yn y DU a rhanbarth yn Lloegr, Cymru sydd â'r gyfran uchaf o gyfanswm swyddi o fewn y sector lletygarwch (8.5%) o'i gymharu â chyfanswm y gyflogaeth, gan gyflogi dros 123,000 o bobl. Yng Ngheredigion, mae busnesau lletygarwch, fel bwytai, caffis, tafarndai a bariau, a'r diwydiant arlwyo digwyddiadau yn cyflogi tua 4,500 o bobl, sy'n cyfateb i fwy nag 16% o'r holl weithwyr, a hynny heb gyfrif y nifer fawr o swyddi yn y gadwyn gyflenwi sy'n ddibynnol ar y sector. 

Er mwyn helpu’r diwydiant lletygarwch dros y misoedd nesaf, galwodd AS Ceredigion ar y Canghellor i ymestyn y cynllun ffyrlo “tra bod cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn mynnu hynny”, gan ailadrodd barn ei blaid y dylid darparu cymorth ariannol yn unol â rheoliadau datganoledig yn hytrach na phenderfyniad unochrog llywodraeth San Steffan. 

Galwodd hefyd ar y Canghellor i ymestyn y gyfradd TAW is o 5% ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth am flwyddyn hyd at Fawrth 2022. Croesawodd Plaid Cymru gyhoeddiad y Canghellor ym mis Gorffennaf 2020 i osod cyfradd is o TAW ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth - polisi hir dymor Plaid Cymru - ac maent bellach yn annog y Canghellor i barhau â'r polisi hwn.  

Ar amser tyngedfennol o’r pandemig, dywedodd Mr Lake “na allwn fforddio aberthu llwyddiant trwy ddod â chymorth ariannol hanfodol ar gyfer busnesau bach ledled Ceredigion i ben yn gynamserol.”  

Dywedodd Ben Lake AS, Llefarydd Trysorlys Plaid Cymru: 

“Bydd cannoedd o swyddi mewn tafarndai, bariau, gwestai a bwytai ledled Ceredigion mewn perygl pan ddaw sawl rhaglen gymorth i ben y Gwanwyn hwn.  Mae 4,500 o bobl yng Ngheredigion yn cael eu cyflogi o fewn y sector lletygarwch - mae hynny oddeutu 16% o gyfanswm y gyflogaeth. Byddai peidio cyflwyno mesurau i gefnogi'r sector lletygarwch ar 3 Mawrth nid yn unig yn ergyd i’r sector ond hefyd i’r economi ehangach yng Ngheredigion. 

“Mae Plaid Cymru galw felly am estyniad o’r cynllun ffyrlo tra bod cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn mynnu hynny. Rydym hefyd yn galw ar y Canghellor i ymestyn y gyfradd TAW is ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth am flwyddyn hyd at Fawrth 2022. Rhaid rhoi cyfle i gwmnïau ailsefydlu, a dylent gael y cyfle i elwa o enillion o leiaf un tymor haf er mwyn dychwelyd i fod yn broffidiol. 

“Mae'r effaith economaidd yn debygol o gael ei theimlo am flynyddoedd i ddod, gyda busnesau'n wynebu dyled a threthi cynyddol. Felly, rwy’n annog y Canghellor i osod rhaglen ad-dalu gynaliadwy ar gyfer busnesau lletygarwch, er mwyn caniatáu taliadau cyfnewidiol dros gyfnod o amser, yn hytrach na chyfandaliadau.   

"Mae’r pandemig wedi bod yn hunllef i’r mwyafrif o fusnesau - ond mae’r diwedd o fewn golwg. Ni allwn fforddio aberthu llwyddiannau'r misoedd diwethaf trwy ddod â chymorth ariannol hanfodol ar gyfer busnesau bach ledled Ceredigion i ben yn gynamserol.” 


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-02-18 11:46:58 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.