Y Canghellor yn dewis y 'status-quo' yng Nghyllideb y Gwanwyn

Bylchau arwyddocaol ar gysylltedd digidol, trafnidiaeth, ynni ac Ymchwil a Datblygu.

Mewn ymateb i Gyllideb y Gwanwyn, dywedodd Be Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys:

“Bydd yr estyniad i’r Gwarant Pris Ynni hyd at fis Gorffennaf yn atal unrhyw gynnydd ychwanegol i filiau ynni ym mis Ebrill, ond mae’n siomedig bod y Canghellor wedi methu ymestyn Y Cynllun Cymorth Biliau Ynni na’r Taliad Ynni Amgen yn y Gyllideb heddiw. Trwy ddewis y status quo, mae’r Canghellor wedi colli cyfle i gynnig y gefnogaeth sydd ei angen ar gartrefi sydd ddim ar y grid, a theuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd gyda chostau byw uwch.

“Mae rhyfeddol na fu unrhyw ymrwymiad i gynnig codiadau cyflog teg i’n gweithwyr yn y sector gyhoeddus, ac mae’n ddychrynllyd na fu unrhyw sôn am wella cysylltedd digidol yn araith y Canghellor. Os ydym am wireddi potensial economaidd Cymru mae’n rhaid gweld buddsoddiad sylweddol a chynnar mewn cysylltedd digidol ac isadeiledd band eang, cysylltiadau trafnidiaeth, ynni adnewyddadwy ac ymchwil a datblygiad. Roedd mudandod y Canghellor ar y materion yma heddiw yn peryglu cloi Cymru mewn lefel is o ddatblygiad nag ardaloedd cyfoethocach y DU.

“Croesawa Plaid Cymru'r cyllid hwyr ar gyfer gofal plant yn Lloegr, ddylai sicrhau cyllid canlyniadol llawn i Gymru. Rydym eisoes ar y droed flaen diolch i Blaid Cymru, gyda gofal plant am ddim i blant dwy flwydd oed wedi’i ymestyn trwy’r Cytundeb Cydweithio. Rhaid i’r llywodraeth Lafur weithio ynghynt ac ymrwymo i ddefnyddio’r cyllid newydd i weithredu polisi Plaid Cymru ar ofal plant cynhwysol llawn.


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2023-03-16 10:36:47 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.