Wythnos ers ei ethol yn arweinydd newydd Plaid Cymru, dywedodd Adam Price bod buddsoddi ym mhobl ifanc wrth graidd polisi economaidd y blaid wrth gamu ymlaen.
Dywedodd Adam Price bod diffyg mewn cyfleoedd economaidd i bobl ifanc yng nghymunedau gwledig Cymru yn achosi ymfudiad yng Nghymru – argyfwng a fydd yn gwaethygu ar ôl Brexit os na gymerir camau priodol.
Roedd arweinydd Plaid Cymru ynghyd â Ben Lake AS Ceredigion yn ymweld â phopty Crwst yn Aberteifi cyn cynhadledd hydref flynyddol y blaid yn y dref yn ystod y penwythnos.
Dywedodd Adam Price AC Arweinydd Plaid Cymru:
“Mae busnesau lleol fel Crwst, ers iddo agor ym mis Medi 2016 gan Osian a Catrin, cwpwl ifanc, lleol, yn esiampl nodedig o’r hyn allem ei weld pe baem yn gweithredu ar fuddsoddi yn ein pobl ifanc a chymunedau.
Cafwyd tan-fuddsoddi hanesyddol yn isadeiledd Cymru ac mae llywodraeth bresennol Llywodraeth Cymru yn methu creu cyfleoedd i bobl ifanc i ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau.
Ynghyd ag absenoldeb cymharol cwmniau a sefydliadau Cymreig, a blynyddoedd o dan fuddsoddiad a’r gwahaniaeth mewn oedran , yr hyn a welwn yw ymfudiad ar obeithion tymor hir Cymru gyda nifer o gymunedau gwledig ar draws Cymru yn profi mudo sylweddol o ran pobl ifanc i rannau eraill o Gymru, Prydain a thuhwnt.
Fel rhan o’n rhaglen 2030, mae Llywodraeth nesaf Plaid Cymru wedi ymrwymo i wyrdroi cyfoeth economaidd ein gwlad. Credwn bod talent, sgiliau a dealltwriaeth ein pobol ifanc yn ganolog i’n strategaeth. Felly rydym yn ymrwymo i flaenoriaethu buddsoddiad yn ein pobl ifanc fel prif bwynt ein polisi economaidd newydd.
Ychwanegodd Ben Lake, AS Ceredigion,
“Mae cyfraniad pobl ifanc yn holl bwysig i wytnwch a chynaliadwyedd cymunedau gwledig Cymreig. Heb amheuaeth Brexit yw’r bygythiad mwyaf i gymunedau gwledig Cymru ac i’r rhagolygon am ddyfodol i bobl ifanc.
Mae buddsoddi mewn isadeiledd a diwydiant tra’n gweithio i greu cyfleoedd i’n pobl ifanc i sefydlu eu busnesau eu hunain a ffynnu yn eu cymunedau yn hanfodol os ydym am weld ein cymunedau yn goroesi y tuhwnt i Brexit.”
Popty annibynnol bychan yw Crwst. Maent yn gweini bara cartref organig gyda’r cyfan wedi dechrau o’r dechrau.
Cyrhaeddodd Crwst restr fer fel ymgeisydd rhanbarthol am yr ail flwyddyn yn olynol (2017/2018) yng Ngwobrau Busnesau Gwledig a chafodd ei restru gan Cered – menter Iaith Gymraeg ar gyfer Ceredigion, fel busnes sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg.