Cefndir
"Dwi’n byw ac yn ffermio ar fferm Synod Uchaf, Synod Inn, y ddwy ferch fydd y 6ed cenhedlaeth i fyw a gobeithio ffermio ar y fferm deuluol yma. Rwy’n lywodraethwr ar ysgolion cynradd Llanarth a Bro Sion Cwilt, yn gynghorydd cymuned ar Cyngor Cymuned Llanarth a Llandysilio GoGo ac yn gyn-aelod o Gwylwyr y Glannau Cei Newydd. Dw’i hefyd yn aelod o barti canu Bois Y Gilfach, yn aelod o Eglwys Gwenlli St Marc, ac ,er iddo gael ei ohirio am 2 flynedd, dwi’n gadeirydd ar bwyllgor ymgyrch Eisteddfod Ceredigion dros ward Llanarth. Dw’i hefyd yn arweinydd ar Glwb Ffermwyr Ifanc Caerwedros, yn ogystal a bod yn un o ymddiriedolwyr neuadd Caerwedros. Yn ystod y cyfnod clo ohewydd Covid, fues i’n dosbarthu nwyddau, boed yn fwyd neu’n feddyginiaeth yn yr ardal ac yn cyd-lynnu gwirfoddolwyr eraill i wneud yr un gwaith hanfodol yma mewn ardaloedd eraill o fewn y ward. Wnes i hefyd gwirfoddoli i helpu allan gyda’r awdurdod fel rhan o ymateb argyfwng oherwydd Covid pe bydde angen os fydde’r sefyllfa wedi gwaethygu."
Pam pleidleisio dros Bryan?
"Dw’i bellach wedi bod yn gynghorydd sir ers 10 mlynedd dros Ward Llanarth a wedi cael boddhad mawr wrth gwneud y gwaith. Mae gen i adnabyddiaeth dda o’r holl bentrefi o fewn y ward, o Synod Inn i Gilfachreda, Llanarth i Mydroilyn ac i fyny hyd at ochrau Dihewyd a Gorsgoch lle mae ffin y ward nesa. Mae gen i berthynas dda gyda swyddogion yr awdurdod sydd yn beth da wrth adrodd am cwynion neu broblemau o fewn y ward. Mae llawer o heriau yn gwynebu cefn gwlad ar hyn o bryd, felly mae gen i’r hyder a’r angerdd i sefyll lan dros yr ardal rwy’n ei gynrychioli a gobeithio gwneud gwahaniaeth er lles ward Llanarth a chefn gwlad Ceredigion ac yn y pen draw i Gymru."
Blaenoriaethau Bryan
"Mae hybu’r economi wledig yn flaenoriaeth i mi. Os oes cyfleuon gwaith da iawn yn yr ardal, yna fydd hyn yn dennu ac yn cadw’r bobl ifanc yn ein hardaloedd. Gyda hyn, mae angen lle i fyw arnynt, ac fel aelod o bwyllgor Rheoli Datblygu Ceredigion, dw’i am i bobl ifanc cael y cyfle o brynnu neu i adeiladu cartref gydol-oes yn y cymuned lle’i magwyd. Mae’r elfen cymunedol yn bwysig iawn i mi, ond sydd hefyd yn bwysig i holl drigolion yr ardal, boed yn hen neu’n ifanc. Dangoswyd hynny’n ddigon clir yn ystod y cyfnod clo lle roedd aelodau o glwb ffermwyr ifanc yr ardal neu aelodau o’r eglwysi neu capeli yn barod i wirfoddoli i helpu eraill. Gyda’r toriadau ariannol sydd yn anffodus yn ein gwynebu ni fel sir, mae’r elfen cymunedol hynny’n mynd i fod yn bwysicach fyth.Mae’r A487 yn rhedeg drwy ward Llanarth a dw’i mewn cyswllt gyda’r Trunk Road agency yn aml er mwyn rhoi pwysau arnynt i wneud yr heol beryglus yma’n fwy diogel."
Manylion cyswllt: |
01545 580422 |
07976 298015 |
anwenbrei@btinternet.com |
Dangos 1 ymateb