Mae’r darparwr amgen, Broadway Partners, wedi galw’r gweinyddwyr. Mae’r cwmni wedi bod yn anelu i gyflwyno eu rhwydwaith gallu-gigadid Ffibr i’r Safle ar draws gogledd Ceredigion ar ôl ymgysylltu â’r cymunedau lleol am dros 2 flynedd.
O dan Gynllun Taleb Gigadid Llywodraeth y DU, roedd Broadway Partners yn anelu i gysylltu tua 11,500 o safleoedd ar draws Ceredigion a Phowys i’r rhwydwaith ffibr newydd. Roedd Broadway Partners wedi bod yn gweithio gyda chymunedau yng Ngheredigion yn cynnwys Wardiau Ceulan a Maesmawr ynghyd a Melindwr, ond hyd yn hyn does yr un eiddo wedi’u cysylltu.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae hyn yn ddatblygiad siomedig, ac yn un fydd yn achos pryder sylweddol i lawer yng ngogledd Ceredigion oedd wedi gweithio gyda’r cwmni i ddatblygu cynlluniau rhwydwaith band eang ffibr yn eu cymunedau lleol. Byddaf yn codi’r mater gyda Llywodraeth y DU fel mater o frys fel y gellir parhau a’r cynlluniau oedd yn eu lle.
"Mae model ariannu presennol Llywodraeth y DU yn ei gwneud hi’n anodd i ddarparwr rhwydwaith gwahanol llenwi’r bwlch cysylltedd mewn ardaloedd gwledig. Er hynny, byddai’n briodol i Lywodraeth y DU ymyrryd er mwyn cefnogi’r ardaloedd yma, ac yn arbennig cynorthwyo i ddynodi cwmni all wneud y gwaith sydd heb ei gwblhau. Mae’r ardaloedd yma eisoes wedi aros gormod o amser am gysylltedd band eang digonol. Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau nad oes mwy o oedi i wireddu’r cynlluniau yma.”
Dywedodd y Cyng Catrin M S Davies:
“Rwy’n gwerthfawrogi bod hyn yn rhwystredig iawn i’r holl drigolion yn fy Ward sydd wedi’u heffeithio gan hyn ac rwy’n rhannu eu siom a’u rhwystredigaeth. Mae darparu gwell gwasanaeth digidol i gartrefi a busnesau gweledig yn parhau yn flaenoriaeth i mi, a byddaf yn parhau i weithio gyda fy nghydweithwyr yn y Cyngor a gyda Ben Lake AS ac Elin Jones AS i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau gwasanaeth band eang cyflym a dibynadwy i gymaint o’n cymunedau a phosib.”
Dywedodd y Cyng Rhodri Davies:
“Mae hwn yn ddatblygiad siomedig ac rwy’n gwybod y bydd yn newyddion gwael i gynifer o drigolion a pherchnogion busnes ar draws fy Ward. Gobeithio daw prynwr cyn gynted â phosib, ond os bydd rhaid, rwy’n gofyn i bob lefel o Lywodraeth i gydweithio gyda’r cymunedau sydd wedi’u heffeithio er mwyn dod o hyd i ddarparwr arall.”
Dangos 1 ymateb