Mae swyddfeydd Elin Jones AC a Ben Lake AS wedi bod yn cydweithio er mwyn sicrhau bod Ceredigion yn cael blaenoriaeth gan lywodraethau Cymru a San Steffan wrth ariannu band eang. Wythnos ddiwethaf, cawsant ddatganiad hir-ddisgwyliedig gan Julie James AC yn amlinellu’r camau nesaf ar gyfer cyflwyno band eang cyflym.
Cliciwch yma i ddarllen y datganiad yn ei gyfanrwydd.
Mae’r datganiad yn datgelu y bydd adeiladau sydd ar ôl i’w cysylltu wedi eu rhannu mewn i ‘Lotiau’, gyda Cheredigion yn rhan o lot Gorllewin Cymru a’r cymoedd, sef lot rhif 3. Fe fydd yn dod i’r golwg cyn bo hir pa adeiladau yn benodol a fydd yn cael eu cynnwys yn y broses.
Yn ogystal â hyn, mae Elin Jones ar ddeall y bydd oddeutu 1000 o adeiladau yng Ngheredigion yn y lot hynny, a bod disgwyl i’r rhain cael eu cysylltu yn ystod y tair blynedd nesaf.
Yn dilyn y datganiad a chyfarfod gyda Julie James, dywedodd Elin Jones AC:
“Yn anffodus, nid yw’r datganiad hwn yn rhoi sicrwydd digonol i mi y caiff band eang ei gyflwyno 100% yng Ngheredigion yn y dyfodol agos.
“Rwy’n deall nad yw Llywodraeth Cymru wedi cwblhau eu trafodaeth gyda BT/Openreach ar gytundeb blaenorol Cyflymu Cymru, a gall hyn olygu y caiff rhagor o adeiladau eu cysylltu er mwyn cyflawni’r cytundeb hwn.
“Fodd bynnag, mae’r Gweinidog yn awyddus i bwysleisio bod y trafodaethau yma gyda BT wedi bod yn rhai anodd iawn. Mae hefyd yn deg i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn siomedig nad yw BT/Openreach yn cynnig ymestyn y gwaith, hyd yn oed gyda chyllid ar gael iddynt.
“Fe gwrddais â’r Gweinidog bythefnos yn ôl i drafod y datganiad hwn a byddaf yn cyfarfod â hi eto yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf i drafod cartrefi a busnesau o fewn Lot 3. Rwy’ hefyd yn gobeithio trafod sut fyddwn yn cynllunio datrysiad cymunedol mewn ardaloedd na fydd yn derbyn band eang. Gall hyn cynnwys defnyddio darparwyr eraill a defnyddio cymysgedd o ddatrysiadau ffeibr a di-wifr.
“Yn fy marn i, nid yw hyn yn foddhaol, ond rwy’n awyddus i weithio gyda phob cymuned yng Ngheredigion i weld sut gallwn gael arian gan Lywodraeth Cymru i gefnogi hyn, hyd yn oed lle nad oes yna gytundeb ffurfiol gyda BT.”
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Philip Hammond AS, Canghellor Llywodraeth Prydain, ei gyllideb hydref. Roedd hyn yn cynnwys addewid o £200 miliwn tuag at fand eang gwledig. Fe fydd Elin Jones a Ben Lake yn awr yn ceisio i ddarganfod os bydd unrhyw gyfran o’r arian hwn yn cael ei wario yng Nghymru, ac os felly, sut.
Hoffech chi fod ar fas-data Elin Jones a Ben Lake o etholwyr sydd yn ceisio am gysylltiad band eang? Ebostiwch [email protected] am ragor o wybodaeth.