Elin Jones yn codi pryderon brys am fand eang Ceredigion

Rhowch flaenoriaeth i Geredigion ar gyfer Cyflymu Cymru, meddai AC

 

elin_ipad.jpg

Mae Elin Jones, AC Ceredigion, wedi galw am gyfarfod brys gyda’r Llywodraeth i drafod darparu band eang yng Ngheredigion, yn dilyn ffigyrau a ddaeth i’r amlwg oedd yn dangos mai dim ond 60% o gartrefi oedd yn gymwys i dderbyn band eang cyflym iawn yng Ngheredigion a lwydodd i’w cael erbyn yr haf hwn.

Mae’r ffigyrau, a ddatgelwyd gan Lywodraeth Cymru, yn gosod Ceredigion yn ail o waelod y rhestr o Awdurdodau Lleol Cymru ar gyfer gosod cyfarpar band eang cyflym iawn yn ôl canran.

Mae’r ffigyrau hefyd yn datgelu bod yn agos i £6 miliwn wedi ei wario gan Gyflymu Cymru yng Ngheredigion, sef llai na hanner o’r hyn a gafodd ei wario ar gymunedau gwledig eraill gyfagos megis Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd a Phowys lle'r oedd cyfartaledd pob un rhwng £12 a 14 miliwn.

Dywedodd Elin Jones AC:

“Rwy am drefnu cyfarfod brys gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol am ddarparu band eang cyflym iawn ar draws Cymru. Nid yw hyn yn ddigon da.

“Rwy’n eithriadol o bryderus ynglŷn â’r ffigyrau yma, a byddaf yn ceisio am atebion o’r Llywodraeth ar y mater hwn.

“Mae’n ymddangos bod Ceredigion wedi cael ei gadael ar ôl yn y broses gyflwyno. O’i chymharu â gwariant ardaloedd gwledig cyffelyb mae llai o arian wedi cael ei wario yma gan Superfast Cymru, ac mae’r canlyniadau yn dangos hyn.

“Rwy’n clywed o hyd gan etholwyr am gyflymdra araf eu band eang ac mae yna gymunedau cyfan wedi cael eu siomi wrth i ddyddiadau terfyn disgwyliedig ar gyfer cyflwyno Band Eang Cyflym iawn cael eu methu.

“Mae yna hefyd achosion lle mae cymunedau wedi cael eu gadael tu allan i’r cwmpas gan Openreach, a hynny er eu bod yn hynod o agos i ardaloedd sy’n derbyn Band llydan.

“Cyswllt gwe cyflym a dibynadwy sydd ei angen arnom yng Ngheredigion, ar gyfer ein cymunedau a’n busnesau. Mae angen i’r Llywodraeth yn awr ymyrryd a gweithredu er mwyn sicrhau bod Ceredigion yn cael blaenoriaeth gan Superfast Cymru, a dyna beth y byddaf yn pwyso ar y Llywodraeth i’w gyflawni.”

Dywedodd y Cyng. Alun Williams, Aelod Cabinet Cyngor Ceredigion:

“Yn wythnosol mae pobl yn gwneud penderfyniadau ar ble i fyw a gweithio yn seiliedig ar argaeledd Band Llydan. Os na allwn ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen ar bobl yn y byd modern bydd hyn yn arwain at ddiboblogi cefn gwlad.

“Ar y llaw arall, os cawn hyn yn iawn, mae gan fand llydan y gallu i gydraddoli pob anghysondeb sydd wedi bodoli rhwng ardaloedd gwledig a threfol.”

 

Ffigyrau Llwodraeth Cymru:

 

Awdurdod Lleol

Canran o Safleoedd Cymwys Superfast Cymru a gwblhawyd – Mehefin 2016

1

Merthyr Tydfil

98.32%

2

Blaenau Gwent

97.89%

3

Rhondda Cynon Taf

94.94%

4

Torfaen

88.98%

5

Pen-y-bont ar Ogwr

88.02%

6

Conwy

88.00%

7

Caerffili

87.13%

8

Castell-nedd Port Talbot

83.60%

9

Sir Benfro

81.99%

10

Ynys Môn

80.21%

11

Casnewydd

79.64%

12

Gwynedd

79.36%

13

Abertawe

78.86%

14

Wrecsam

76.57%

15

Bro Morgannwg

76.42%

16

Sir y Fflint

75.28%

17

Sir Gaerfyrddin

70.94%

18

Sir Ddinbych

70.76%

19

Sir Fynwy

68.93%

20

Powys

65.67%

21

Ceredigion

60.44%

22

Caerdydd

58.08%

     

 

Awdurdod Lleol

Adeiladau cymwys ar gyfer Cyflymu Cymru wedi'i cwblhau - Mehefin 2016

1

Sir Benfro

50,121

2

Gwynedd

49,252

3

Rhondda Cynon Taf

47,851

4

Sir Gaerfyrddin

47,320

5

Conwy

46,813

6

Powys

43,135

7

Blaenau Gwent

31,921

8

Ynys Môn

28,134

9

Merthyr Tydfil

26,728

10

Caerffili

25,764

11

Sir y Fflint

24,011

12

Wrecsam

22,508

13

Castell-nedd Port Talbot

22,043

14

Abertawe

21,285

15

Ceredigion

21,252

16

Sir Ddinbych

20,399

17

Pen-y-bont ar Ogwr

19,266

18

Torfaen

18,100

19

Sir Fynwy

16,053

20

Bro Morgannwg

14,200

21

Casnewydd

9,866

22

Caerdydd

4,853

 

 

 

     

 

Awdurdod Lleol 

Gwariant Cyflymu Cymru yn ôl awdurdod lleol - Medi 2016

1

Sir Benfro

£14,234,570

2

Gwynedd

£13,974,700

3

Sir Gaerfyrddin

£13,394,753

4

Conwy

£13,247,095

5

Rhondda Cynon Taf

£13,028,437

6

Powys

£12,252,033

7

Blaenau Gwent

£8,933,036

8

Ynys Môn

£7,914,306

9

Merthyr Tydfil

£7,547,312

10

Caerffili

£7,029,441

11

Sir y Fflint

£6,539,339

12

Wrecsam

£6,039,593

13

Ceredigion

£5,975,072

14

Castell-nedd Port Talbot

£5,948,535

15

Abertawe

£5,714,751

16

Sir Ddinbych

£5,557,301

17

Pen-y-bont ar Ogwr

£5,277,009

18

Torfaen

£4,864,056

19

Sir Fynwy

£4,552,833

20

Bro Morgannwg

£3,992,402

21

Casnewydd

£2,554,065

22

Caerdydd

£1,342,583

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.