Cyfarfod cyhoeddus i drafod band eang yng Ngheredigion

Yn dilyn galwadau gan Elin Jones AC a Ben Lake AS bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Ngheredigion i drafod cysylltiadau band eang yn y sir.

Bydd Julie James AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros fand eang, yn mynychu'r cyfarfod a bydd cyfle i rannu profiadau ac i holi cwestiynau am y camau nesaf o ran cyflwyno band eang cyflym ar draws y sir.

Poster_Julie_James.png

Yn ogystal â phresenoldeb y Gweinidog, rydym wedi estyn gwahoddiad i gynrychiolydd Openreach i fod yn bresennol yn y cyfarfod. Bydd hefyd cyfle i drafod yr opsiynau amgen sydd ar gael i gartrefi a chymunedau yng Ngheredigion, gyda phresenoldeb cynrychiolwyr nifer o gwmniau TG o orllewin Cymru sy'n darparu gwasanaethau band eang - megis Dyfed IT, BCC IT a Telemat.

Dydd Iau, 26 Ebrill 2018

4 - 6 o'r gloch

Tafarn Llanina, Llanarth

Croeso cynnes i bawb - dewch i ddweud eich dweud.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.