Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus gorlawn wedi ei drefnu gan Gangen Rhydypennau o Blaid Cymru yn Bow Street ar nos Iau, 10 Tachwedd i drafod Brexit a’r effaith a gaiff hyn ar Gymru.
Cadeiriwyd y drafodaeth fywiog gan Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, ac roedd y siaradwyr yn cynnwys Simon Thomas, AC Canol a Gorllewin Cymru a Jonathan Edwards AS, cynrychiolydd Cymru ar y pwyllgor ‘Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd’ yn San Steffan.
Roedd dros gant o bobl yn y digwyddiad a welodd aelodau’r cyhoedd yn holi aelodau etholedig Plaid Cymru ar yr effaith y bydd Brexit yn cael ar y gymuned amrywiol ac Ewropeaidd yng Ngheredigion.
Dywedodd Elin Jones AC, a gadeiriodd y drafodaeth:
“Mae hwn yn gyfnod aflonyddus yn wleidyddol ac yn economaidd, ac mae’n bwysig bod pawb yn cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau i ddyfodol Ceredigion.
“Roedd yna ymdeimlad yn yr ystafell y bydd penderfyniadau mawr yn cael effaith go iawn yn ein cymunedau yng Ngheredigion, a chafodd hwn ei adlewyrchu yn yr hyn a ddywedodd rhai o’r siaradwyr brwd, a’r rheiny o’r llwyfan ac o’r llawr.
“Pleidleisiodd Ceredigion dros aros yn y UE, ac mae angen gwrando ar y safbwynt hwn. Mae’n amlwg bod gan Geredigion llawer i’w colli os ydym yn gadael yr UE - ein ffermwyr, ein hamgylchedd, ein Prifysgolion a’n Colegau. Rydym hefyd angen sicrhau bod pobl sy’n wreiddiol o wledydd eraill yr UE ond sydd wedi ymgartrefi yng Ngheredigion, yn cael yr un sicrwydd â’n cyd-ddinasyddion.”
Siaradodd Jonathan Edwards AS am y gwahaniaethau yn y termau sy’n gysylltiedig â Brexit i Gymru, a sut fyddai ‘Brexit Meddal’ o fudd i Gymru. Dywedodd:
“Mae gan Gymru lawer mwy i’w golli nag unrhyw genedl arall yn y DU. Mae ein heconomi yn un allforio, oddi mewn y DG a thu hwnt. Mae’r drafodaeth ar hyn o bryd yn ffocysu ar Brexit Caled a Brexit Meddal.
“Mae Llywodraeth Dorïaidd bresennol y DU yn mynd ar drywydd ‘Brexit Caled.’ Mae peryglon hyn llawer, llawer mwy i Gymru nag i unrhyw genedl arall yn y DG. Mae’n hanfodol bwysig i swyddi Cymreig ein bod yn parhau ein haelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau.”
Dywedodd Simon Thomas wrth y gynulleidfa
fod Plaid Cymru yn gwneud pob dim yn ei nerth i warchod hawliau trigolion Ewropeaidd, pa un ai eu bod wedi eu geni tu fewn neu tu fas i Gymru. Trafododd hefyd y gwaith mae ef a’i gydweithwyr yn ei wneud yn y Cynulliad i sicrhau buddiannau cenedlaethol Cymreig. Dywedodd:
“Mae Plaid Cymru yn galw ar Fesur Parhad yr UE i Gymreig er mwyn diogelu holl reoliadau UE sy’n bodoli yn y gyfraith Gymreig. Byddai’r Mesur yn sicrhau bod rheoliadau’r UE yn parhau yng Nghymru unwaith y cwblheir Brexit ac yn atal pwerau datganoledig rhag syrthio yn ôl i ddwylo Llywodraeth San Steffan.
“Dylai penderfyniadau ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o wir am gyfreithiau yn ymwneud ag amaethyddiaeth a’n hamgylchedd, lle mae gan Gymru ofynion gwahanol nad yw Llywodraeth bell i ffwrdd San Steffan yn eu deall. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn atebol am dros 90% o allforion amaethyddol Cymreig, a bydd parhau yn atebol i UE yn holl bwysig i gynnal y fasnach hon.
“Fodd bynnag, ni wnaf fyth bleidleisio yn y Cynulliad Cenedlaethol i adael yr Undeb Ewropeaidd nag i esmwytháu'r llwybr i ymadael â’r Undeb. Mae’n amlwg i fi mai penderfyniad San Steffan yw hwn a fydd yn effeithio’n fawr ar Gymru, felly mae’n bwysig ein bod ni’n gwarchod buddiannau cenedlaethol Cymru.”