Mae Ben Lake wedi cwrdd â chynrychiolwyr yr NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru a ffermwyr lleol i drafod goblygiadau gadael yr UE heb gytundeb.
Mae amaethyddiaeth yn gwbl allweddol i economi Ceredigion. Amcangyfrifir bod pob £1 a gynhyrchir mewn amaethyddiaeth yn cyfateb i tua £7.40 i'r economi leol trwy gyfrwng cadwyni cyflenwi a gwario, a bod pob swydd ym maes ffermio yn cefnogi 3.5 o swyddi mewn sectorau eraill. Mae allforion cig coch, a chig oen yn arbennig, yn yn ganolog i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Mae'r farchnad sengl yn gyrchfan allforio hanfodol i fwyd a diod Cymru. Mae dros 80% o allforion bwyd ac anifeiliaid yn mynd i'r UE, yn ogystal â rhwng 35% a 40% o'r holl oen Cymreig a gynhyrchir.
Yn ystod cyfarfod gydag aelodau NFU Cymru, a gynhaliwyd gan Aled Lewis, Cadeirydd Sir NFU Cymru Ceredigion, gwrandawodd Mr Lake ar bryderon yr aelodau am sut y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn effeithio ar ffermwyr a chymunedau cefn gwlad Cymru. Roedd yr aelodau’n poeni y gallai gadael heb gytundeb arwain at embargo masnach ar allforio anifeiliaid y DU a chynhyrchion sy'n seiliedig ar anifeiliaid.
Yn ystod y ddadl diweddar yn Nhŷ'r Cyffredin ar Adael yr UE heb gytundeb, rhannodd Mr Lake bryderon ei etholwyr, a phwysleisiodd y bydd yn parhau i weithio ar draws y pleidiau i atal y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb.
Dywedodd Mr Lake:
"Byddai goblygiadau gadael yr UE heb gytundeb yn ddifrifol a phellgyrhaeddol i drigolion Ceredigion. Mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn fodlon ystyried y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb yn gwbl anghyfrifol, yn enwedig o fod yn gwybod y lefel o ddifrod y byddai’n achosi i’w dinasyddion.
"Mae gan y Prif Weinidog y pŵer i osgoi Brexit heb gytundeb a hynny trwy ddiddymu, neu geisio estyn Erthygl 50. Mae'n ddyletswydd arni nawr i dynnu’r opsiwn o adael heb gytundeb oddi ar y bwrdd, a thrwy gwneud hynny waredu’r ansicrwydd a’r pryder gwirioneddol sy’n sy’n bodoli ymhlith ein cymunedau.”
Dywedodd Aled Lewis, Cadeirydd Sir NFU Cymru yng Ngheredigion:
"Rwy'n ddiolchgar iawn i Ben Lake am gyfarfod â ni ac am wrando ar ein pryderon. Mae dyfodol ein perthynas masnachu gyda'r UE yn allweddol i ddyfodol amaeth a'r diwydant bwyd yng Nghymru, ac yn bwysig hefyd i ddyfodol hyfyw ein cymunedau cefn gwlad - felly rhaid osgoi gadael heb gytundeb ar bob cyfrif. Mae'r penderfyniadau caiff eu gwneud yn San Steffan dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf yn mynd i gael effaith enfawr ar ddyfodol teuluoedd ffermio yng Ngheredigion a ledled Cymru gyfan, a rhaid i'n gwleidyddion wneud y penderfyniadau gorau i'r cymunedau hynny."
Dywedodd cynrychiolydd o Undeb Cenedlaethol Cymru Ceredigion:
"Croesawodd Cangen Ceredigion FUW Ben Lake AS i'w cyfarfod Gweithredol Sirol ym mis Rhagfyr. Cafwyd trafodaeth fywiog oedd yn canolbwyntio ar y goblygiadau gadael yr UE heb gytundeb ar y diwydiant amaeth yng Nghymru."