Ben Lake AS yn cefnogi ymgyrch Alzheimer’s Research UK i wella iechyd ymennydd y cyhoedd

robina-weermeijer-3KGF9R_0oHs-unsplash.jpg

Mae ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus newydd gan Alzheimer’s Research UK – gyda'r amcan o annog pobl i edrych ar ôl eu hiechyd ymennydd gydol eu hoes er mwyn lleihau’r risg o ddementia - yn cael ei chefnogi gan AS Ceredigion, Ben Lake. 

Lansiwyd yr ymgyrch Think Brain Health gan brif elusen ymchwil dementia yn y DU er mwyn helpu’r cyhoedd i ddeall y potensial iddynt allu lleihau’r risg o ddatblygu dementia.  

Mae potensial y gallai hyd at 40% o achosion dementia byd-eang gael eu rwystro neu eu harafu wrth newid i ffordd mwy iach o fyw, yn ôl adroddiad yn 2020 gan y Comisiwn Lancet, ac eto mae ymchwil gan Alzheimer's Research UK yn datgelu mai dim ond 34% o'r cyhoedd sy'n credu y gallent leihau eu risg o dementia. 

Mae'r fenter Think Brain Health yn cynnig cyngor hawdd ei ddilyn ynglŷn â sut y gallwch ofalu am eich ymennydd trwy gydol eich bywyd. Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar dair rheol syml - carwch eich calon, arhoswch yn siarp a chadwch gysylltiad. Ymhlith y cynghorion mae cymryd ymarfer corff yn rheolaidd a bwyta diet iach a chytbwys, cadw'n actif yn feddyliol, a chadw llygad ar bwysedd gwaed, colesterol a phwysau. 

Mae Ben Lake AS wedi addo gwneud yr hyn a all i dynnu sylw at yr ymgyrch yn ei etholaeth. 

Mae bron i filiwn o bobl yn y DU yn byw gyda dementia heddiw, a bydd mwy na hanner trigolion Ceredigion yn adnabod rhywun sydd â'r cyflwr. Er gwaethaf hyn, ar hyn o bryd nid oes unrhyw driniaethau i arafu, atal neu rwystro’r clefydau sy’n achosi dementia.  Alzheimer’s yw’r fwyaf cyffredin ac mae Alzheimer’s Research UK yn ymroddedig i ddod o hyd i ffyrdd gwell o ddeall, canfod, trin a lleihau'r risg o ddementia.   

Dywedodd Ben Lake AS:“Yn drychinebus, bydd llawer o bobl yng Ngheredigion yn ymwybodol o’r effaith ddinistriol mae dementia yn ei chael ar unigolion a’u teuluoedd. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i arbed pobl rhag y cyflwr hwn a dyna pam rwy’n cefnogi ymgyrch Think Brain Health Alzheimer’s Research UK yn llawn.”  

“Gall pob un ohonom chwarae ein rhan wrth hyrwyddo a gwella ein hiechyd hymennydd. Byddaf yn ymarfer mwy ac yn gwneud mwy o ymdrech i gynnal fy nghysylltiadau cymdeithasol er mwyn lleihau fy risg o ddementia, a gobeithio y bydd llawer mwy o bobl yn gwneud yr un peth i ofalu am eu hiechyd ymennydd. ”   

Dywedodd Susan Mitchell, Pennaeth Polisi Alzheimer’s Research UK: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Ben Lake AS yn cefnogi ein hymgyrch Think Brain Health. 

“Ni fu’r achos dros leihau risg erioed yn gryfach: rydym yn gwybod y gallai hyd at 40% o achosion dementia byd-eang gael eu hatal neu eu arafu felly mae angen trawsnewid y ffordd y mae pobl yn meddwl am leihau risg dementia. 

“Gall ei gefnogaeth helpu i drosglwyddo’r neges i’r cyhoedd y gallant gymryd camau cadarnhaol i ofalu am eu hymennydd gydol eu oes ac, yn y pen draw, lleihau eu risg o ddementia. Dim ond rhai o'r pethau y gallwn eu gwneud i gadw ein hymennydd yn iach wrth i ni heneiddio yw cadw'n actif yn feddyliol ac yn gorfforol, bwyta diet iach, a chadw llygad ar bwysedd gwaed a cholesterol. 

“Bydd cefnogaeth gan ASau yn ein helpu wrth i ni geisio gweithio gyda’r llywodraeth i ddatblygu strategaeth iechyd ymennydd a ddylai gynnwys ymrwymiad i weithredu ymyriadau cost-effeithiol i fynd i’r afael â’r ffactorau risg sy’n cael yr effaith fwyaf ar y risg o ddatblygu dementia.” 


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-01-29 10:15:18 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.