Codi Pryderon Bodlondeb gyda Llywodraeth Cymru

Llythyr ar y cyd rhwng Elin Jones a Ben Lake yn galw am ymyrraeth y Llywodraeth yn achos Bodlondeb

bodlondeb.jpg

Mae Elin Jones AC a Ben Lake AS wedi dod at ei gilydd i alw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn atal Cartref Bodlondeb yn Aberystwyth rhag cau.

Mewn llythyr ar y cyd i Rebecca Evans, Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, dywedodd Elin a Ben wrth Lywodraeth Cymru bod Bodlondeb, sy’n gwasanaethu llawer o drigolion yng ngogledd Ceredigion yn ogystal â darparu gofal preswyl, yn darparu gofod i nifer o glinigau a gofal, yn ‘ased gwerthfawr iawn i’r gymuned’ a bod yna law clir am i’r gofal preswyl yn Bodlondeb barhau.

Fe wnaethant godi nifer o faterion gyda’r Llywodraeth gan gynnwys Cyngor Sir Ceredigion yn dyfynnu o Ddeddf a Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ( Cymru) Deddf 2014, Deddf Rheoliadau ac Arolwg ar Ofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fel rhannol resymau dros ail ystyried dyfodol Bodlondeb.  Gwnaeth Ben ac Elin hefyd godi newid meintiau ystafelloedd, yr angen i foderneiddio yr adeilad, a’r toriad o £38 miliwn i gyllid Cyngor Sir Ceredigion dros y bedair mlynedd ddiwethaf gan Lywodraeth Cymru.

Fe wnaethant godi hefyd broblemau penodol yn ymwneud â’r sefyllfa bresennol gyda’r Gweinidog gan ddweud:

“Gan na all Cyngor Sir ddarparu gofal nyrsio uniongyrchol, mae Ceredigion wedi rhoi’r cartref gofal drwy’r broses tendro er mwyn trosglwyddo y rôl o ddarparu gofal i gwmni preifat, yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru.  Fodd bynnag, dim ond un cynnig a dderbyniwyd, sydd, yn anffodus wedi methu â phasio rownd gyntaf yr archwiliad ariannol.  Gwnaed achos aflwyddiannus hefyd i Fwrdd Iechyd Hywel Dda i redeg y cartref.”

Wrth osod eu galwad i gynnal Bodlondeb, fe meddai nhw:

“Hoffem gyflwyno rhai ceisiadau i chi ac i Lywodraeth Cymru.  Yn gyntaf, ar ôl gweld llwyddiant cynllun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru, a wnaeth glustnodi £1.4 biliwn i ail ddatblygu ein hysgolion, hoffem wybod a fyddech yn ystyried yr un fath o gynllun i Awdurdodau Lleol sydd angen datblygu a buddsoddi yn eu cartrefi nyrsio a phreswyl.

“Byddai’r un math o gyd ariannu yn caniatáu Awdurdodau Lleol i ystyried eu strategaeth hir dymor dros ddarparu gofal i boblogaeth sy’n tyfu ac yn heneiddio.  Rydym yn deall bod hyn yn gryn fenter, ond yn un fyddai yn helpu cartrefi gofal trwy Gymru am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Elin Jones:

“’Dyw hi ddim ond yn deg bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod gofal yr henoed yn cael ei gynnal a bod yna gynllun hir dymor.

“Mae gan ein pobl ifanc fynediad i ysgolion modern o safon uchel trwy’r rhaglen Ysgolion Unfed Ganrif ar Hugain, byddai cynorthwyo i gael yr un fath o gynllun i gartrefi preswyl yn cynorthwyo Cynghorau i ddatgloi swm enfawr o gyllid ac yn sicrhau bod gofal i’n pobl hŷn yn cael ei gynnal yn lleol ac o’r safon uchaf.”

Dywedodd Ben Lake AS:

“Rhaid i ni ystyried pob opsiwn er mwyn caniatau i’r pobl hŷn fyw’n gyffyrddus ac mewn lleoliad parchus gyda’r gofal maen nhw yn eu haeddu.

“Rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru yn ystyried o ddifrif yr opsiwn yma, gan y gall dawelu ofnau trigolion a theuluoedd, ond hefyd sicrhau dyfodol ariannol i gartrefi eraill fel Bodlondeb.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.