Ben Lake AS yn annog grwpiau lleol i wneud cais am hyd at £20,000 o gyllid

Screenshot_2020-08-07_at_13.53.23.png

Mae Ben Lake AS Ceredigion wedi annog elusennau lleol ac achosion da i wneud cais am arian gan un o bedair ymddiriedolaeth a ariennir gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. 

Derbynnir ceisiadau o ddydd Mawrth 4ydd Awst tan ddydd Mercher 19 Awst a gall sefydliadau wneud cais am grantiau o rhwng £500 a £20,000.   

Gall sefydliadau sydd â diddordeb wneud cais i un o bedair ymddiriedolaeth, ac mae pob un o'r prosiectau cymorth yn canolbwyntio ar themâu gwahanol: 

• Bydd y Postcode Neighbourhood Trust yn helpu achosion da sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19. Dylai grwpiau sy'n awyddus i addasu neu ehangu gwasanaethau, neu gynyddu eu gwydnwch, wneud cais. 

• Mae’r People’s Postcode Trust yn ariannu prosiectau sy'n ceisio hyrwyddo hawliau dynol, brwydro yn erbyn gwahaniaethu a helpu i atal tlodi. 

• Mae’r Postcode Community Trust yn cefnogi mentrau sy'n gweithio i wella iechyd a lles mewn cymunedau, gan gynnwys y rhai sy'n ceisio lleihau unigedd. Mae'r ymddiriedolaeth hefyd yn cefnogi prosiectau sy'n cynyddu cyfranogiad mewn celf a hamddena corfforol. 

• Mae’r Postcode Local Trust ar gyfer grwpiau sy'n awyddus i gynyddu mynediad cymunedol i fannau awyr agored a gwella bioamrywiaeth. Mae grwpiau sy'n ceisio gwella cynaliadwyedd neu frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd hefyd yn cael eu hannog i wneud cais. 

Dylai achosion da ymgeisio i’r ymddiriedolaeth sy'n cefnogi amcanion eu prosiect yn y ffordd orau. Gall ymgeiswyr ddod o hyd i wybodaeth, canllawiau ariannu byr a chwis cymhwysedd (eligibility quiz) ar wefannau’r pedair ymddiriedolaeth.   

Dywedodd Ben Lake AS: "Mae gwaith achosion da yng Ngheredigion yn ystod y cyfnod anodd hwn wedi bod yn ddim byd llai na ysbrydoledig – ni ellir gorbwysleisio i’r hyn a wneir ganddynt i'r rhai mwyaf bregus yn ein cymuned. 

"Rwy'n annog unrhyw sefydliadau sydd â diddordeb i gwblhau’r cwis cymhwysedd ac yna gwneud cais i'r ymddiriedolaeth sy'n gweddu orau i'w hanghenion. Mae chwaraewyr y People’s Postcode Lottery eisoes wedi codi dros £500,000,000 ar gyfer achosion da a byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o ymgeiswyr llwyddiannus o Geredigion."     

Dywedodd Laura Chow, Pennaeth yr People’s Postcode Lottery: "Yn ystod y misoedd diwethaf rydym wedi gweld y cyfraniad pwysig mae achosion da ar lawr gwlad yn ei wneud mewn cymunedau ledled Prydain.   

"Rwy'n falch iawn bod People’s Postcode Lottery yn gallu cefnogi'r sefydliadau hyn gyda'r cyfle ariannu yma. Bydd bron i £7,000,000 yn cael eu dyfarnu mewn grantiau, felly rwy'n annog achosion da a grwpiau llai lleol i edrych ar wefannau'r ymddiriedolaeth, i weld pa un sy fwyaf perthnasol ar gyfer eu prosiect ac yna mynd ati i ymgeisio."  

Mae o leiaf 32% o bob tocyn yn mynd yn uniongyrchol i elusennau. Mae chwaraewyr y People’s Postcode Lottery wedi codi mwy na £500,000,000 ar gyfer 7,500 o achosion da ledled Prydain ac yn rhyngwladol ers 2005.   

I gael rhagor o wybodaeth, i weld y canllawiau ariannu a gwneud cais ewch i wefannau'r ymddiriedolaethau: 

www.postcodeneighbourhoodtrust.org.uk  

www.postcodetrust.org.uk  

www.postcodelocaltrust.org.uk  

www.postcodecommunitytrust.org.uk  

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.