Dywedodd Llefarydd Trysorlys Plaid Cymru Ben Lake AS fod y Canghellor wedi “methu â chydnabod gwahaniaethau rhanbarthol a sectoraidd” trwy gyhoeddi toriadau i gynlluniau cymorth Covid.
Cyhoeddodd y Canghellor ar ddydd Gwener, 29 Mai y bydd cynllun absenoldeb ffyrlo coronafeirws y DU yn gorffen ddiwedd mis Hydref. O fis Awst, rhaid i gyflogwyr dalu yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn, yna 10% o'r cyflog o fis Medi, gan godi i 20% ym mis Hydref. Hefyd, caniateir i weithwyr ddychwelyd i'r gwaith yn rhan-amser o fis Gorffennaf, ond bydd cwmnïau'n talu 100% o'u cyflogau.
Cadarnhaodd y Canghellor hefyd y byddai'r cynllun i’r hunangyflogedig yn cael ei estyn am y tro olaf am gyfnod o dri mis.
Mewn ymateb i'r cyhoeddiadau hyn, dywedodd Ben Lake AS:
“Rwy’n croesawi’r estyniad i’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, er ein bod yn dal i aros i weld a fydd y Canghellor yn mynd i’r afael â diffygion y cynllun cyntaf er mwyn sicrhau bod yr unigolion oedd yn anghymwys i hwnnw allu elwa o’r ail gam.
“Rwy’n ofni oni bai bod y Canghellor yn diwygio ei gynlluniau i gael gwared ar y Cynllun Cadw Swyddi yn raddol er mwyn ystyried y gwahanol heriau y mae busnesau mewn gwahanol sectorau ac ardaloedd yn eu hwynebu, bod perygl iddo danseilio’r gwaith caled a wnaed i arbed llawer o swyddi yn ystod y pandemig hwn.
"Mae'n bosibl na fydd rhai busnesau hyd yn oed yn rhydd o’r cyfyngiadau erbyn i'r cynllun ffyrlo ddechrau cael ei ddiddymu, a gwn y bydd hyn yn ei gwneud hi'n anhygoel o anodd iddynt oroesi. Mae'n siomedig bod y Canghellor wedi methu â chydnabod gwahaniaethau rhanbarthol a sectoraidd, a gobeithio y byddaf i, ynghyd ag ASau eraill, yn gallu ei argyhoeddi i ailystyried ei ymdriniaeth yn hyn o beth.
"Mae'n ddigon posib y bydd angen cefnogaeth ar fusnesau yng Nghymru am gyfnod hirach na'r rhai yn Llundain, oherwydd y ffordd y mae'r achosion wedi lledu ar draws y DU, ac mae angen cefnogaeth ar rai sectorau, megis twristiaeth a lletygarwch, i sicrhau eu bod yn gallu goroesi ar ôl colli cyfran mor fawr o'u tymor.
"Mae'r rhain yn faterion y byddaf yn eu codi yn y Senedd, oherwydd ni fydd dull sy'n gweddu i anghenion Llundain o reidrwydd yn gweithio i Gymru. Er mwyn iechyd y cyhoedd a lles yr economi, rhaid inni beidio â phrysuro ag un ateb sy'n addas i bawb wrth weithredu’r mesurau cymorth hanfodol hyn."