Heddiw, dangosodd Ben Lake AS ei gefnogaeth i fwyd a ffermio ar Ddiwrnod Cefnogi Ffermio Prydain, gan gydnabod y rôl hollbwysig ffermwyr wrth gynhyrchu bwyd i'r genedl a gofalu am gefn gwlad.
Rhoddodd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) fathodyn pin gwlân a gwenith i ASau er mwyn iddynt arddangos eu cefnogaeth yn gyhoeddus ar adeg dyngedfennol i'r sector amaethyddol gyda thrafodaethau masnach, gan gynnwys trafodaethau hanfodol gyda'r UE, yn parhau.
Mae diwydiant bwyd a ffermio'r DU yn werth mwy na £120 biliwn i'r economi genedlaethol ac mae'n cyflogi mwy na 4 miliwn o bobl.
Wrth wneud sylw, dywedodd Ben Lake AS: "Rwy'n falch o wisgo'r bathodyn pin i gefnogi'r sector ffermio sydd mor werthfawr nid yn unig i Geredigion, ond i Gymru gyfan. Mae ffermwyr a chnydwyr Cymru yn falch o gynhyrchu bwyd diogel a maethlon y gellir ei olrhain yr ydym i gyd wrth ein bodd yn ei fwyta i safonau sy'n arwain y byd, yn ogystal â chynnal cefn gwlad eiconig Cymru a chynnal economi wledig ddeinamig.
"Cafodd ffermwyr eu hadnabod yn gywir fel gweithwyr allweddol yn ystod pandemig Coronafeirws. Diolch i'r ffermwyr hynny yn fy etholaeth i, a'r gadwyn cyflenwi bwyd ehangach, yr oeddem yn gallu sicrhau bod silffoedd siopau'n cael eu cadw’n llawn a bod y genedl yn cael ei bwydo yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yr wyf yn ddiolchgar iawn am popeth y maent wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud.
"Bydd yr hydref yma yn gyfnod tyngedfennol i fwyd a ffermio yn y DU a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy gallu i dynnu sylw at bwysigrwydd diogelu'r safonau bwyd rydym yn eu gwerthfawrogi mewn unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol o fwyd a fewnforiwyd a fyddai'n anghyfreithlon i'w gynhyrchu yma.
"Byddwn yn annog cyd-Aelodau Seneddol ac aelodau o'r cyhoedd i gefnogi'r ymgyrch bwysig hon."