Elin Jones yn cefnogi ymgyrch i Curo'r Ffliw

Elin Jones yn annog rheiny sydd mewn perygl o dal y ffliw i gael y breichlyn

Elin Jones - Curo Ffliw

 

Mae Elin Jones AC yn annog pawb sy’n gymwys i gael y brechlyn ffliw am ddim (ffliw) i amddiffyn eu hunain a’r rhai o’u cwmpas.

Brechiad yw’r amddiffyniad gorau rhag dal neu ledaenu ffliw, sy’n salwch difrifol a allai fod yn farwol.

Mae Elin Jones AC, sy’n cynrychioli Ceredigion, yn ymuno â galwadau sy’n cael eu gwneud gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gan annog y rhai sydd mewn grwpiau risg i wneud apwyntiad gyda’u meddyg teulu lleol neu fynd i’w fferyllfa gymunedol a chael y brechlyn ffliw am ddim yn fuan.

Mewn grwpiau risg yn cynnwys menywod beichiog, pobl â salwch hirdymor penodol, pobl sydd dros 65 oed a gofalwyr.

Mae pob plentyn rhwng dwy i wyth mlwydd oed hefyd yn cael cynnig amddiffyniad gyda brechlyn ffliw chwistrellu trwynol syml - hynny yw, heb nodwydd. Bydd brechlyn chwistrellu trwynol i blant dwy a thair blwydd oed (ar 31 Awst 2017) yn eu meddygfa a bydd plant yn y dosbarth derbyn, blwyddyn un, dau, tri a phedwar yn yr ysgol gynradd yn cael cynnig eu brechlyn chwistrellu trwynol yn yr ysgol.

Meddai Elin Jones:

“Mae’r ymgyrch BEAT FLU yn bwrw ati i gynnig brechlynnau i unigolion ledled Cymru sydd mewn perygl o gael cymhlethdodau difrifol gan y ffliw. Rwy’n annog y rheini sydd mewn peryg i sicrhau eu bod ar ben eu rhestr ‘i’w wneud’ yr hydref hwn.

“Y llynedd yng Nghymru, cymerodd llai na hanner (47%) o’r rheini mewn grwpiau sydd dan berygl dan 65 oed eu brechiad ffliw am ddim o’r Gwasanaeth Iechyd, ac mae angen inni gynyddu nifer y bobl sy’n cael eu brechu’n sylweddol er mwyn atal lledaeniad y salwch ataliol hwn i raddau helaeth.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.