Mae Ben Lake yn dweud bod angen ‘cefnogaeth ariannol ar unwaith’ ar wasanaethau cyhoeddus Cymru
Mae llefarydd y Trysorlys ar ran Plaid Cymru, Ben Lake AS, wedi ysgrifennu at y Canghellor yn galw am adolygiad o Fformiwla Barnett i sicrhau bod Cymru’n cael “cyllid teg” yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth y DU bod Gogledd Iwerddon am dderbyn pecyn cyllido o £3.3 biliwn, gan gynnwys dros £1 biliwn wedi’i glustnodi i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus.
Mae AS Ceredigion wedi codi’r ffaith fod cynghorau yng Nghymru yn wynebu bwlch ariannu o hyd at £1.294 biliwn erbyn 2026/27, bydd yn eu gorfodi i wneud toriadau aruthrol a chynyddu treth y cyngor eto.
Mae Plaid Cymru wedi gofyn i'r Trysorlys i ymrwymo ar frys i ddarparu pecyn cymorth cyfatebol i Gymru, i gefnogi cynghorau sir a gwasanaethau cyhoeddus, fel wnaethpwyd yng Ngogledd Iwerddon. Pe bai Cymru’n cael cynnig pecyn o’r fath, ac yn adlewyrchu’r hyn dderbyniwyd gan Ogledd Iwerddon y pen, byddai ei gwasanaethau cyhoeddus yn derbyn tua £5.4 biliwn.
Dywedodd Mr Lake y dylid diweddaru’r dulliau a ddefnyddir i benderfynu ar ddyraniad cyllid i Gymru, gan eu bod bellach wedi dyddio, yn enwedig yr ariannu gwaelodol a osodwyd yn 2018 a oedd yn seiliedig ar ddata gan Gomisiwn Holtham yn 2010 – data oedd yn ddibynnol ar gyfrifiad 2001 sydd bellach dros 23 mlynedd yn ôl.
Galwodd am adolygiad, er mwyn disodli fformiwla Barnett, a rhoi “system newydd sy’n symud oddi wrth ariannu ‘ad hoc’ ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus a thuag at fframwaith sy’n darparu cyllid cyson, tryloyw a theg i Gymru” yn ei le.
Wythnos diwethaf (Dydd Mercher 31 Ionawr), cymhellodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, yr Ysgrifennydd Gwladol i “fynnu cyllid teg cyfatebol i Gymru” yn Nhŷ'r Cyffredin. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol osgoi’r cwestiwn.
Yn ei lythyr, mae Mr Lake yn dweud:
“Rydw i'n croesawu dychweliad y sefydliadau datganoledig yn Stormont, a fydd yn siŵr o ddod â sefydlogrwydd i'r bobl yng Ngogledd Iwerddon. Fel rhan o’r adferiad hwn, hoffwn nodi bod yr Awdurdodau yn Stormont yn cael pecyn cyllid o fwy na £3.3 biliwn, gan gynnwys dros £1 biliwn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus.
“Yn debyg i Ogledd Iwerddon, mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru angen cefnogaeth ariannol ar unwaith. Mae cynghorau yng Nghymru yn dweud eu bod yn wynebu bwlch ariannu o hyd at £1.294 biliwn erbyn 2026/27. O ganlyniad i'r diffygion hyn, mae cynghorau yn gorfod ystyried cynnydd enfawr mewn trethu lleol, yn ogystal â thoriadau sylweddol i'r gwasanaethau maent yn eu darparu. Mae awdurdodau lleol yn Lloegr hefyd wedi mynegi eu pryderon am y diffyg cyllid hwn.
“Rydw i felly’n ysgrifennu at y Trysorlys i ofyn eu bod yn ymrwymo ar unwaith i ddarparu pecyn cyfatebol o gefnogaeth i gynghorau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel wnaethpwyd yng Ngogledd Iwerddon. Rydw i ar ddeall, pe bai Cymru’n cael cynnig pecyn o’r fath, ac yn adlewyrchu’r hyn dderbyniwyd gan Ogledd Iwerddon y pen, byddai ei gwasanaethau cyhoeddus yn derbyn tua £5.4 biliwn.
“Rydw i hefyd yn nodi bod y pecyn i Ogledd Iwerddon yn cynnwys codiad o 124% yng nghyllid fformiwla Barnett o 2024/25. Fel rydych chi’n ymwybodol, mae’r addasiad hwn wedi’i gyfiawnhau yn seiliedig ar gynsail rhagdybiedig o arian gwaelodol Cymru o 115%. Ond nid yw’r 115% hwn yn seiliedig ar y lefel bresennol o anghenion Cymru, ac yn hytrach ar amcangyfrifon a wnaed gan Gomisiwn Holtham yn 2010 a dynnodd o ddata Cyfrifiad 2001. Ers hynny, mae anghenion a phoblogaeth Cymru wedi newid yn sylweddol ac mae angen eu hadolygu ar unwaith.
“Ar ben hynny, yn wahanol i’r setliad ariannol newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon, nid yw hyd yn oed yr amcangyfrifiad hwn o 115%, sydd bellach wedi dyddio, o anghenion Cymru yn sbarduno cynyddrannau fformiwla Barnett ychwanegol i Gymru o 115%. Yn lle hynny, dim ond 105% yw cynyddrannau Barnett Cymru ar gyfer ‘cyfnod trosiannol’ – cyfnod a allai bara degawdau. Bydd cynyddrannau Barnett Gogledd Iwerddon, ar y llaw arall, yn cael hwb ar unwaith gan y ‘lefel anghenion’ o 124% a osodwyd gan gyllid gwaelodol newydd Gogledd Iwerddon.
“I wneud y sefyllfa’n waeth, mae anghysondeb o ran cyllid Cymru o’i gymharu â Lloegr. Mae gweinidogion y DU yn aml yn dyfynnu lefel ymddangosiadol o 120% - ffigwr cyfartalog dros gyfnod SR21 sydd wedi’i gynnwys yn adroddiad ‘Block Grant Transparency’ y Trysorlys. Nid yn unig y gallai’r 120% hwn fod wedi darfod o ystyried effeithiau gwasgfa Barnett, sydd wedi’u dogfennu’n dda, ond mae Dadansoddiad Gwlad a Rhanbarthol Rhagfyr 2023 y Trysorlys yn amcangyfrif cyfanswm gwariant adnabyddadwy fesul person yng Nghymru ar ddim ond 114% o lefel Lloegr. Byddai 114% wrth gwrs yn disgyn o dan y terfyn isaf o 115% a ddylai sbarduno’r newid o’r lluosydd 105% i’r 115% a drafodwyd fel rhan o gytundeb Fframwaith Cyllidol Cymru.
“Rydw i hefyd yn nodi bod y Trysorlys heb gyhoeddi diweddariad o’r cyllido cymharol ynghyd â’r adroddiad ‘Block Grant Transparency’ yng Ngorffennaf 2023.
“O ystyried y diffygion sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, a’r ffaith fod y data a ddefnyddir i gyfrifo cyllido gwaelodol bellach wedi dyddio, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i gynnal adolygiad o fformiwla Barnett a sut caiff ei roi ar waith ar hyn o bryd fel rhan o gytundeb Fframwaith Cyllidol Cymru, i asesu a yw wirioneddol yn llwyddo i ddiwallu anghenion pobl Cymru? Gallai’r Llywodraeth ddarparu ffigurau wedi’u diweddaru o’r lefelau gwariant cymharol rhwng Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan gyhoeddi amcangyfrifon tryloyw yn llawn o’r lefelau gwariant bob blwyddyn (nid fel cyfartaledd aml-flwyddyn), a chyfrifo’r anghysondeb enfawr yn lefelau ariannu cymharol Cymru yn adroddiad ‘Block Grant Transparency’ y Trysorlys yn erbyn ei adroddiad Dadansoddiad Gwlad a Rhanbarthol.
“Fel rhan o adolygiad o’r fath, byddwn i'n gobeithio y byddai’r Llywodraeth yn asesu’r posibiliad o ddisodli Fformiwla Barnett yn llwyr, ac yn ei le, yn rhoi system sy’n symud i ffwrdd o’r cyllido ‘ad-hoc’ i'n gwasanaethau cyhoeddus, a thuag at fframwaith fydd yn darparu cyllid cyson, tryloyw a theg i Gymru a chenhedloedd eraill y DU.”
Dangos 1 ymateb