Mae Swyddfa'r Post wedi cyhoeddi cytundeb Fframwaith Bancio newydd gyda 28 o fanciau'r DU i sicrhau bod miliynau o'u cwsmeriaid yn parhau i gael mynediad cenedlaethol am ddim i wasanaethau bancio bob dydd, ar yr un pryd â sicrhau bod postfeistri a Swyddfa'r Post yn cael cydnabyddiaeth deg ar gyfer darparu'r gwasanaethau hanfodol hyn.
Lllynedd, deliodd canghennau Swyddfa'r Post â thros 130,000,000 o drafodion ar ran banciau'r DU. Gyda thros 11,500 o ganghennau, mae Swyddfa’r Post mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu gwasanaethau bancio bob dydd i unigolion a busnesau. Mae canghennau Swyddfa'r Post yn parhau i fod wrth galon cymunedau ledled y DU, gan gynnwys y rhai lle nad oes canghennau banc yn bodoli mwyach. Mae miliynau o gwsmeriaid banciau'r DU yn dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol hyn – mae mwy na chwarter y bobl (28 y cant) wedi tynnu arian parod o’u Swyddfa’r Post leol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
I bobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy gwledig neu drefol ddifreintiedig mae canghennau Swyddfa’r Post yn achubiaeth go iawn, gan sicrhau cynhwysiant ariannol i’r cwsmeriaid mwyaf diamddiffyn drwy ddarparu gwasanaethau hanfodol megis tynnu arian, talu anfonebau a’r holl wasanaethau post o dan yr un to. Gyda mwy na hanner y bobl (52 y cant) wedi ymweld â mân-werthwyr oedd yn derbyn arian parod yn unig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cael mynediad hawdd i arian parod yn allweddol i fân-werthwyr ac i ddefnyddwyr.
Dywedodd Ben Lake, AS Ceredigion:
"Mae swyddfeydd post yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol i gymunedau lleol ar draws Ceredigion, yn arbennig trwy ddarparu mynediad i rai gwasanaethau bancio.
"Rwyf wrth fy modd bod banciau wedi llofnodi'r cytundeb newydd hwn, sy'n galluogi Swyddfa'r Post i barhau i wasanaethu cymunedau yn y modd yma, yn ogystal â sicrhau bod cyflogau postfeistri yn deg ac yn adlewyrchu'r gwasanaeth hanfodol y maent yn ei ddarparu.
"Fodd bynnag, mae'n siomedig iawn clywed bod Barclays wedi penderfynu atal caniatáu codi arian o Swyddfa'r Post. Mae'r cwsmeriaid sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwn yn aml mewn cymunedau gwledig ac ynysig, ac o'r herwydd rwy'n pryderu'n fawr am yr effaith y bydd hyn yn ei gael. Byddaf yn gofyn am gyfarfod â Barclays yn y dyfodol agos i godi'r pryderon hyn, ac i'w hannog i fynd ar drywydd y cynnig i rannu eiddo â banciau a busnesau eraill. "
Mae'r banciau i gyd wedi ail gadarnhau eu hymrwymiad drwy'r cytundeb newydd i alluogi eu cwsmeriaid fanteisio ar ystod o wasanaethau bancio arian a siec mewn canghennau Swyddfa'r Post. Fodd bynnag, dywedodd Swyddfa'r Post ei bod yn siomedig bod Barclays wedi dewis rhoi’r gorau i ganiatáu i'w cwsmeriaid dynnu arian o’r 8fed o Ionawr 2020. Bydd cwsmeriaid Barclays yn gallu parhau i dalu arian a sieciau i’w cyfrifon, cael newid ac ymholiadau mantolen mewn canghennau Swyddfa'r Post ar ôl y dyddiad hwn gan nad yw'r penderfyniad hwn yn effeithio ar y gwasanaethau hyn.
Yn 2017 ymrwymodd Swyddfa'r Post a phrif fanciau stryd fawr y DU i gytundeb ar draws y diwydiant i alluogi unrhyw un sydd â chyfrif banc yn y DU i ymgymryd ag ystod eang o drafodion bancio mewn swyddfeydd post, gan sicrhau bod cyfleusterau bancio lleol, cyfleus ar gael i unigolion a busnesau mewn cymunedau ledled y DU, hyd yn oed pan fydd y gangen banc diwethaf wedi cau.
Ers hynny, mae Swyddfa'r Post wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r banciau i gytuno ar strwythur ffioedd gwell sy'n adlewyrchu gwir werth y gwasanaeth rhagorol y mae canghennau Swyddfa'r Post yn ymgymryd ag ef ar eu rhan, wrth i nifer y canghennau banc barhau i leihau. Mae'r cytundeb newydd hwn yn sicrhau y gellir cynnal mynediad rhwydd i wasanaethau bancio bob dydd ledled y wlad, tra'n talu'n briodol i bostfeistri ac yn caniatáu i Swyddfa'r Post fuddsoddi mewn gwelliannau i wasanaethau yn y dyfodol.