Cau Barclays Aberaeron yn ergyd arall i Gymru wledig

barclays_BLEJ.jpg
Mae cynrychiolwyr etholedig wedi datgan eu rhwystredigaeth yn dilyn cyhoeddiad y bydd Barclays yn cau eu cangen yn Aberaeron.
Mae Barclays wedi cyhoeddi y bydd eu cangen yn Sgwâr Alban, Aberaeron yn cau ar Fai 31ain, 2019, gan nodi bod gostyngiad sylweddol yn nifer y nifer y trafodion o fewn y gangen a defnydd cynyddol o’u gwasanaethau ar lein a ffôn.
Mae’r penderfyniad i gau’r gangen yn gadael y dref heb yr un banc - yn dilyn cau NatWest a HSBC yn flaenorol.
Cafodd cwsmeriaid wybod y byddai canghennau Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth yn parhau ar agor, a hefyd eu hannog i ddefnyddio Swyddfa Bost Aberaeron ar gyfer rhai gwasanaethau bancio.
Mae penderfyniad Barclays i gau cangen Aberaeron yn dilyn cau canghennau lleol yn Llandysul a Thregaron.
Dywedodd Elin Jones AC:
“Gyda’r cyhoeddiad yma gan Barclays, mae Aberaeron yn ymuno â Llandysul, Tregaron ac eraill fel ‘trefydd heb fanc’ - gan achosi anghyfleustra ac aflonyddwch i gwsmeriaid ffyddlon a busnesau bach.
“Yn ogystal â cholli gwasanaethau, rwyf yn pryderu am effaith cau’r banc ar ddarpariaeth twll yn y wal, a’r effaith ddilynol gallai hyn gael ar drigolyn a busnes.
“Ynghyd â Ben Lake AS rwyf wedi ysgrifennu at Barclays i ofyn am gyfarfod brys i drafod ymhellach ei phenderfyniadau a’u goblygiadau.”
Ychwanegodd Ben Lake AS :
“Mae’n hynod o siomedig i glywed am fanc arall yn ymadael a’n cymunedau. Mae’r cyhoeddiad yn gofyn am ail feddwl eto ar sut mae gwasanaethau bancio yn cael eu gweithredu o fewn ardaloedd gwledig.
“Mae cysylltiad band eang gwael yn golygu nad yw bancio ar lein yn ddewis i bawb, a hyd yn oed lle mae cysylltedd digonol, nid yw gwasanaeth ar lein yn gallu cwrdd ag anghenion pawb, na chwaith yn bodloni’r economi arian parod eang sy’n dal i fodoli o fewn yr ardal.
“Un ateb posib er mwyn cynnal gwasanaethau bancio gwledig yw i fanciau gydweithio o fewn ‘hwb’ bancio, yn hytrach na gadael ein prif strydoedd. Dyma’r cynnig rwyf wedi ei roi mewn mesur seneddol sydd o flaen y San Steffan ar hyn o bryd, ac ynghyd â mwy o adnoddau i wasanaethau’r Swyddfa Bost, un rwyf yn gobeithio bydd Aelodau Seneddol eraill yn ei gefnogi.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.