Ar 27 Chwefror, cyflwynodd Ben Lake AS Fesur yn y Senedd i sicrhau bod pobl yn medru cael mynediad at wasanaethau bancio sylfaenol, ble bynnag mae nhw'n byw.
Mae gan y Mesur, sydd â chefnogaeth ASau o bob plaid wleidyddol, dair elfen iddi:
Ei gwneud hi'n anoddach i fanciau gau - trwy newid y 'Protocol Mynediad at Fancio' fel bod banciau'n gorfod rhoi ystyriaeth i'r pellter teithio i'w cangen agosaf - yn hytrach na pellter yn unig fel sy'n digwydd ar hyn o bryd - wrth benderfynu cau.
Creu 'Canolfannau Bancio Lleol' - Trwy newid y rheolau presennol, caiff banciau 'gyd-leoli'. Gallai hyn olygu bod mwy nag un banc yn medru rhannu safle a rhai swyddogaethau gweinyddol. Byddai hyn yn ei gwneud hi'n fwy cost effeithiol i fanciau lluosog barhau i fod ar agor mewn ardal.
Gwella a chynyddu'r gwasanaethau ariannol a gynigir gan Swyddfeydd Post - mae gan Swyddfeydd Post y gallu i gynnig amrywiaeth o wasanaethau bancio ar hyn o bryd - o dalu sieciau i godi arian o gyfrif. Ond nid oes gan lawer o ganghennau y seilwaith sylfaenol, cyllid a hyfforddiant i gyflawni'r gwasanaethau hyn yn effeithiol. Trwy fuddsoddi yn ein Swyddfeydd Post, gallai Llywodraeth San Steffan sicrhau bod 99% o gwsmeriaid manwerthu a 95% o gwsmeriaid masnachol, sydd â mynediad hawdd at gangen Swyddfa Bost, yn medru parhau i gael mynediad at wasanaethau bancio sylfaenol.
Gwyliwch araith Ben yn y Senedd isod:
Bydd Ail Ddarlleniad y Mesur ar 23 Tachwedd 2018.