Elin Jones AC a Ben Lake AS yn barnu trefniadau Bancio Symudol NatWest
Mae Elin Jones AC a Ben Lake AS wedi barnu trefniadau Bancio Symudol NatWest ar gyfer Aberteifi a Llambed yn dilyn y penderfyniadau i gau canghennau bancio’r trefi erbyn Gorffennaf 2018.
Cyhoeddwyd yn ddiweddar gan NatWest bydd Gwasanaeth Bancio Symudol yn bresennol yn Aberteifi pob Dydd Iau o’r 17eg Mai am 45 munud a pob dydd Mawrth yn Llambed am 45 munud o’r 15fed o Fai. Caiff y Gwasanaeth Bancio Symudol ei gefnogi gan wasanaeth ‘Banciwr Cymunedol’ a fydd ar gael i’r ddwy dref un diwrnod y wythnos, a swyddog ‘TechXpert’ i’r ddwy gymuned.
Dywedodd Elin Jones, Aelod Cynulliad dros Geredigion:
“Mae’r cynnig gan NatWest o wasanaeth bancio 45-munud yn Aberteifi a Llambed yn ddim llai na sarhad i gwsmeriaid ffyddlon NatWest, sydd yn nifer o achlysuron wedi bod yn bancio gyda’r gangen am genedlaethau”.
“Mae’r ffenest 45-munud yn sylweddol llai na’r gwasanaeth bancio symudol caiff ei ddarparu mewn trefi cyfagos megis Castell Newydd Emlyn, ac rwyf yn barod wedi cael amryw o drigolion yn cysylltu yn pryderu am gapasiti a phreifatrwydd math wasanaeth bancio symudol”.
Ychwanegodd Ben Lake AS, a fu gyflwyno bil diweddar yn San Steffan gyda’r bwriad o gwtogi gallu banciau i gau canghennau gwledig:
“Mae Elin Jones AC a minnau wedi ei gwneud hi’n blaen o’r cychwyn bod penderfyniad NatWest i gau canghennau Aberteifi a Llambed yn gwbl ddiangen, ac mae’r datblygiad diweddaraf yma yn halen ar friw.
“Mae’n annhebygol iawn bydd math wasanaeth sgerbwd wythnosol y banc symudol yn ddigonol i ymdrin ag anghenion nifer fawr o gwsmeriaid NatWest, a fydd nawr yn debygol o wynebu siwrnai swmpus i Aberystwyth neu Gaerfyrddin yn lle – sydd yn her enwedig i henoed a busnesau lleol.”
Mae Elin Jones AC a Ben Lake AS wedi ysgrifennu at Jon Cooper, Rheolwr Gyfarwyddwr NatWest dros y De Orllewin a Chymru, yn nodi eu pryder ynghylch math drefniadau newydd, fodd bynnag, mae NatWest wedi nodi eu bod am barhau gyda’r trefniadau.