Mae’r banciau wedi bod yn cau canghennau lleol ar draws Cymru ers blynyddoedd maith bellach. Mae’r symud diweddar at fancio ar lein a’r tueddiad i godi ffioedd ar rai cyfrifon wedi creu rhwystrau i bobl, ac wedi effeithio ar fudiadau elusennol a chymunedol yn waeth na neb.
Er hyn, cyhoeddodd y Financial Conduct Authority (FCA) yr hyn maen nhw’n ei alw’n ‘Consumer Duty’ nôl yn 2022 sef set o reolau sy’n gwneud yn siŵr bod banciau yn gosod safonau uwch er mwyn diogelu eu cwsmeriaid a sicrhau mae eu hanghenion nhw sydd yn dod yn gyntaf.
Rydw i'n benderfynol o sicrhau bod y banciau yn atebol i'r gofynion hyn gan yr FCA ond er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid deall yr heriau mae pobl yn eu hwynebu wrth fancio. Felly, rydw i'n cynnal arolwg ar gyfer aelodau a swyddogion o fudiadau elusennol a chymunedol o bob math ar draws Ceredigion er mwyn casglu profiadau pobl o fancio.
Rydw i'n awyddus i weld a ydy’r rheolau yma gan yr FCA wedi gwella’r gwasanaeth yng Ngheredigion ac wedi ysgafnhau’r baich i fudiadau. Byddwn i'n gwerthfawrogi felly pe baech chi’n medru ateb cynifer o gwestiynau â phosib cyn 1 Mawrth 2024.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r arolwg, mae croeso i chi gysylltu â mi ar [email protected]. Diolch yn fawr iawn o flaen llaw.