Ben Lake AS yn ymuno ag Ymgyrch Trawsbleidiol i Agor Mwy o Hybiau Bancio

Mae Ben Lake AS a 56 AS arall wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Nikhil Rathi, Prif Weithredwr y Financial Conduct Authority (FCA), yn ei annog i newid y rheolau ynglŷn â hybiau bancio.

Ers i Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol (2023) ddod i fodolaeth, mae'r FCA wedi dod yn rheoleiddiwr LINK, y corff sy'n gyfrifol am asesu anghenion cymuned i arian parod. Gall LINK argymell hwb bancio neu gynllun tebyg ar gyfer ardal benodol. Er hynny, mae’r rheolau presennol yn golygu nad yw LINK yn gallu argymell sefydlu hwb bancio tan fod y banc olaf mewn tref yn cau, yn amodol ar rai eithriadau, gan beryglu'r gallu i gael arian parod mewn cymuned.

Ar hyn o bryd mae’r FCA yn cynnal ymgynghoriad i newidiadau posib i’w rheolau. Ymhlith y rhain mae newid rheol “y banc olaf yn y dref” i reol lle gan LINK ymyrryd pan fydd y banc olaf ond un yn cau yn y dref.

Er hyn, mae Ben Lake AS a’i gydweithwyr yn annog yr FCA i fynd gam ymhellach. Mae’r 57AS sy’n cynrychioli wyth plaid wahanol yn y Tŷ Cyffredin, wedi galw ar Mr Rathi “i alluogi LINK i weithredu ar bob achos yn unigol” ac yn dadlau “pan fo’r ysgrifen ar y mur.... y dylai LINK fod yn gallu awgrymu hwb bancio” pan “mai ychydig ganghennau sy’n weddill.”

Mae’r ASau yn dadlau y byddai newid o’r fath yn galluogi staff i symud i hwb bancio fyddai’n sicrhau gwasanaeth di-dor, a “bod y gymuned ddim yn mynd i gyfnod o ansicrwydd “lle byddent yn colli’r gallu i gael arian parod.”

Dywedodd Ben Lake AS:

“Mae canghennau banc wedi bod yn diflannu o strydoedd Ceredigion am flynyddoedd lawer, gan adael trigolion, busnesau lleol a nifer o sefydliadau eraill heb y gwasanaethau bancio sydd eu hangen arnynt.

"Rwy’n cefnogi’n llwyr yr ymgyrch trawsbleidiol yma, fydd yn galluogi agor hybiau bancio ar draws y sir, rhywbeth rwyf wedi bod yn ymgyrchu amdano ers i mi gyflwyno Mesur yn y Senedd yn 2018 yn galw ar y Llywodraeth i ddarparu hwbiau bancio cymunedol.

"Mae gwasanaeth wyneb yn wyneb a’r gallu i gael arian parod yn parhau yn bwysig iawn i nifer o etholwyr, busnesau a sefydliadau ar draws Ceredigion. Nid yw pawb yn gallu neu am fynd yn ddigidol eto, ac mae’n rhaid i ni wneud beth bynnag y gallwn i leihau’r ergyd, ac un ffordd o wneud hynny yw sefydlu hwb bancio.”


Dangos 1 ymateb

  • Elain Roberts
    published this page in Newyddion 2024-02-12 10:56:27 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.