Yr wythnos hon, fel y maent wedi’i wneud mewn blynyddoedd blaenorol, cyfrannodd holl gynghorwyr Plaid Cymru Ceredigion i achos teilwng iawn, sef banciau bwyd y sir. Cyflwynwyd sieciau ym Mhenparcau, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi a Llandysul gan roi £800 i bob banc bwyd i gefnogi gwaith anhygoel banciau bwyd Ceredigion.
Dywed Bryan G Davies, arweinydd Grŵp Plaid Cymru Ceredigion.
"Rydym yn ymdrechu i wneud ein gorau fel y Blaid mewn grym i helpu'r rhai sydd mewn angen yng Ngheredigion ac fel cynghorwyr lleol rydym yn cefnogi mentrau fel banciau bwyd a mannau cynnes.
“Unwaith eto eleni mae cynnydd wedi bod yn yr angen am gymorth gan fanciau bwyd yng Ngheredigion - rhywbeth nad oes yr un ohonom am ei weld. Mae’n annerbyniol bod cymaint o drigolion y Sir yn wynebu tlodi yn yr unfed ganrif ar hugain oherwydd toriadau gwariant cyhoeddus hanesyddol o Lundain, cyflogau isel a costau byw uchel. Byddwn yn hoffi iddo fod yn gwbwl wahanol a rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan na fydd eu hangen yng Ngheredigion.
Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb sy'n gwirfoddoli i gynnal y banciau bwyd ar draws y Sir."
Cyflwynwyd siec o £800 yn i'r Banciau Bwyd canlynol: Penparcau, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi a Llandysul.
Dywedodd Catherine Griffiths, Cydlynydd Stordy’r Jiwbilî, Penparcau
Mae’r galw ar y banc bwyd yn cynyddu nawr achos bod y gaeaf wedi cyrraedd. Rydym ni wedi gweld dyblu yn y nifer o bobl sydd eisiau help o’r banc bwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’r rhoddion o fwyd gan siopwyr lleol wedi haneru. Mae tua 40 o wirfoddolwyr yn gweithio fel tîm effeithiol i gwblhau’r holl waith i redeg y banc bwyd ac mae’r amser maen nhw’n ei roi yn werthfawr dros ben.
Ychwanegodd Dawn Scarisbrick, cyd-lynydd Banc Bwyd Aberteifi
"Diolch yn fawr i Grŵp y Blaid am eu cyfraniad caredig. Mae’r galw am gymorth gan y banc bwyd wedi cynyddu'n flynyddol oherwydd yr argyfwng costau byw parhaus."
Mae pob Banc Bwyd yn y Sir yn croesawu cyfraniadau ariannol neu bwydydd o bob math, ac yn barod iawn i groesawu unrhyw un sydd am wirfoddoli mewn unrhyw fodd.
Y mae croeso i unrhyw un sy'n teimlo'r straen ariannol i fynd at eu Banc Bwyd lleol i gael help. Mae'r gwirfoddolwyr yn groesawus iawn ac yn hollol barod i helpu.
Os am ragor o fanylion ynglyn â’r banc bwyd agosa atoch chi, sut i gael help neu sut i gyfrannu - dilynwch y linc hon:
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/cymorth-costau-byw/cymorth-gyda-bwyd/banciau-bwyd-ceredigion/
Dangos 1 ymateb