AS Ceredigion yn annog Llywodraeth y DU i gefnogi ffermwyr Cymru

EhQByw0XgAMUQMZ.png

Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod yr ymgais ddiweddaraf i fynnu bod bwyd wedi'i fewnforio yn cwrdd â safonau cyfreithiol domestig o 1 Ionawr ymlaen. 

Dychwelodd y Mesur Amaeth - a gynlluniwyd i baratoi'r diwydiant ffermio ar gyfer y  flwyddyn nesaf pan nad oes rhaid i'r DU ddilyn cyfreithiau a rheolau'r UE mwyach - i Dŷ'r Cyffredin ddydd Llun yn dilyn gwelliannau gan Dŷ'r Arglwyddi. 

Yn ystod y ddadl ar welliannau Tŷ'r Arglwyddi, dywedodd Ben Lake AS: "Mae'r Llywodraeth yma wedi sôn ers tro am fanteision cymryd rheolaeth yn ôl a sut, yn y cyfnod ôl -UE, y byddwn yn gallu pennu telerau ein masnach â'r byd. Dylai'r telerau hynny fod yn eithaf syml: dylai mynediad i’r farchnad mewnforion i’r DU fod yn ddibynnol ar gwrdd â safonau cynhyrchu bwyd cyfatebol y DU. Heb y diogelwch hwn, mae'r Mesur hwn yn bygwth ffyniant ffermio yng Nghymru yn y dyfodol." 

Dywed Llywodraeth y DU y bydd rheolau'r UE sy'n gwahardd mewnforio cyw iâr a chynhyrchion eraill sydd wedi’u golchi â chlorin yn cael eu cynnwys yn awtomatig yng nghyfraith y DU unwaith y daw'r cyfnod pontio ôl Brexit i ben ar 31 Rhagfyr. 

Ond mae'r Arglwyddi wedi cyflwyno nifer o argymhellion, gan gynnwys un a fyddai'n rhoi feto i ASau dros adrannau mewn cytundebau masnach fyddai’n ymwneud â mewnforion bwyd, y byddai'n ofynnol iddynt gydymffurfio â "safonau domestig perthnasol". 

Dadleuwyd fod angen y newidiadau hyn er mwyn ei gwneud yn amhosibl i'r Unol Daleithiau neu wledydd eraill allforio cyw iâr clorin neu gig eidion wedi’i chwistrelli â hormonau.  

Fodd bynnag, pleidleisiodd ASau o 332 pleidlais i 279 i gefnogi cynlluniau'r llywodraeth i wrthod y gwelliant. 

Mewn ymateb, dywedodd Ben Lake AS:  

"Neithiwr, cefnogodd Plaid Cymru welliannau a fyddai wedi diogelu safonau bwyd mewn cytundebau masnach yn y dyfodol a chryfhau'r gallu'r Senedd i graffu ar drafodaethau masnach. 

"Unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi troi eu cefnau ar ffermwyr Cymru. Er gwaethaf eu holl addewidion a'u hymrwymiadau maniffesto, trechodd y Llywodraeth y gwelliannau, gan adael ein ffermwyr yn wynebu cystadleuaeth annheg a safonau cynhyrchu is mewn cytundebau masnach yn y dyfodol.    

"Bydd Plaid Cymru yn parhau i gyflwyno gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer ein cynhyrchwyr bwyd yn seiliedig ar fwy o lais i'n llywodraethau datganoledig a diogelu safonau bwyd."

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.