AS yn cefnogi Which? sy'n galw am iawndâl awtomatig i deithwyr trenau

andrew-scofield-101526-unsplash.jpg

Gyda theithwyr yn 2018 yn colli bron i bedair miliwn o oriau oherwydd oedi sylweddol ar siwrneiau trên, mae Ben Lake AS yn cefnogi galwad ar i deithwyr dderbyn iawndal cwbl awtomatig am oedi a diddymiadau.   

Ynghyd â Which? mae Ben Lake AS yn mynnu bod adolygiad rheilffyrdd y llywodraeth yn sicrhau bod prosesau iawndal symlach ac haws yn cael eu cyflwyno ar draws y rhwydwaith cyn gynted â phosibl.

Ar ôl blwyddyn a welodd y tarfu mwyaf erioed ar y gwasanaeth, mae'r achos dros roi iawndal awtomatig yn gliriach nag erioed. Ar hyn o bryd dim ond traean (34%) o siwrneiau mae teithwyr yn hawlio amdanynt pan mae arian yn ddyledus am oedi a diddymiadau.

Daw canfyddiadau Which? wrth i'r diwydiant rheilffyrdd gyflwyno ei amserlen haf ddiweddaraf sy'n ceisio cyflwyno 1,000 o wasanaethau ychwanegol yr wythnos ledled y wlad - un flwyddyn ar ôl y sefyllfa o anhrefn trychinebus lle bu i darfu ar y gwasanaeth adael bywydau personol a phroffesiynol miloedd o deithwyr yn deilchion. 

Dywedodd Ben Lake:

"Mae fy etholwyr wedi cael llond bol ar y gwasanaeth annibynadwy y maent wedi'u dderbyn ar y rheilffyrdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae lefelau oedi a chanslo teithiau digynsail wedi eu gadael yn straffaglu i gyrraedd y gwaith, yr ysgol neu'u cartref ar amser. Dyna pam dwi'n cefnogi galwadau Which? i gyflwyno iawndal awtomatig ar draws y rhwydwaith.  

"Mae adolygiad Williams yn gyfle i ailwampio'r system iawndal gymhleth ar gyfer teithwyr felly pan fydd pethau'n mynd o chwith, maen nhw o leiaf yn cael yr arian sydd yn ddyledus iddyn nhw."

Mae'r lefel syfrdanol o oedi - 3,928,560 awr i gyd - yn cyfeirio at 8.1 miliwn o siwrneiau teithwyr ac yn golygu bod oedi sylweddol i tua 80 o drenau y dydd.  

Roedd y flwyddyn druenus o oedi yn cyd-fynd â'r canlyniadau ar gyfer diddymiadau, 660 y dydd ar gyfartaledd (241,934 i gyd) yn 2018 - y nifer uchaf hefyd ers i gofnodion cymaradwy ddechrau yn 2011.

Mae'r canfyddiadau damniol yn dangos pam, os yw'r system reilffyrdd am ddechrau gweithio i deithwyr, bod angen gweithredu ar frys i wella prydlondeb, dibynadwyedd ac iawndal pan fydd pethau'n mynd o chwith.  

Dywedodd Neena Bhati, Pennaeth Ymgyrchoedd Which?:  

"Mae teithwyr wedi wynebu amser caled ar y trenau ers dechrau'r flwyddyn ddiwethaf lle mae'r diwydiant rheilffyrdd wedi methu'n sylfaenol o ran prydlondeb a dibynadwyedd. Yn dilyn hynny mae pobl yn wynebu system iawndal anniben a chymhleth sy'n golygu na fyddant yn hawlio pan fydd pethau'n mynd o chwith.

"Un ffordd hanfodol y gall adolygiad rheilffyrdd a diwydiant y llywodraeth ddechrau adfer ffydd yw drwy gyflwyno iawndal awtomatig am oedi a diddymiadau fel nad oes yn rhaid i deithwyr frwydro i gael yr arian sy'n ddyledus iddynt." 

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.