Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake wedi ymateb heddiw i gyhoeddiad Llywodraeth y DU i’r cytundeb masnach ag Awstralia trwy feirniadu’r Prif Weinidog am “fygwth hyfywedd tymor hir y sector ffermio”.
Bydd y cytundeb yn dileu tariffau a chwotâu ar gynhyrchion Awstralia, gan gynnwys cynhyrchion amaethyddol. Mae Plaid Cymru yn poeni bod diwydiant ffermio Awstralia yn gweithredu mewn ffordd sy'n ei gwneud yn amhosibl i ffermwyr Cymru gystadlu â nhw, gan ddefnyddio dulliau na fyddai'n cydymffurfio â'r safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid uchel sy'n berthnasol yn y DU.
Nododd AS Plaid Cymru fod cig eidion a chig oen Cymru “ymhlith y mwyaf cynaliadwy yn y byd”, honiad a gefnogwyd gan astudiaeth gan Brifysgol Bangor a osododd ffermio cig eidion ac oen yng Nghymru tuag at ben isaf allyriadau CO2 y cilo o’i gymharu ag astudiaethau a gynhaliwyd mewn mannau eraill yn y byd. Rhybuddiodd hefyd "os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r cytundeb hwn, bydd yn gosod cynsail ofnadwy ar gyfer ffermio yng Nghymru, oherwydd mae'n anochel y bydd gwledydd eraill, gan gynnwys Canada, Seland Newydd, ac Unol Daleithiau America yn mynnu telerau ffafriol tebyg ar gyfer eu ffermwyr hwy. "
Mewn ymateb i Gwestiwn Seneddol Ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Mr Lake, cadarnhaodd yr Adran Masnach Ryngwladol na wnaed unrhyw asesiad penodol o effaith bosibl y cytundeb masnach rydd ag Awstralia ar ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yng Nghymru.
Dywedodd Ben Lake AS:
"Mae Ceredigion yn gartref i lawer o ffermydd cig eidion a chig oen teuluol. O'r herwydd, bydd y cytundeb masnach rydd yma ag Awstralia yn cael effaith negyddol ar y sector ffermio yng Ngheredigion, ac mae'n hynod siomedig na chynhaliwyd unrhyw asesiadau effaith gan Lywodraeth y DU ar effeithiau'r cytundeb fasnach hanesyddol honedig yma ar y sector yng Nghymru.
“Er bod cig eidion a chig oen Cymru ymhlith y rhai mwyaf cynaliadwy yn y byd, mae Llywodraeth y DU wedi creu cytundeb ar garlam fydd yn gweld cynnyrch sydd wedi cael eu magu i safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid is yn cael eu hedfan neu eu cludo hanner ffordd ar draws y byd i’n marchnad. Mae hyn yn sylfaenol yn groes i nod honedig y Prif Weinidog ei hun o arwain y byd ar weithredu ar newid yr hinsawdd.
"Mae Gweinidogion y Llywodraeth yn ceisio clodfori’r 'trawsnewidiad' sydd wedi'i gynnwys yn y cytundeb, ac wedi ceisio rhoi sicrwydd y bydd gan amaethyddiaeth Cymru amser i addasu i delerau'r cytundeb trwy gyflwyno'r newidiadau tariff yn raddol dros gyfnod o ddeng mlynedd. Y gwirionedd yw bod y Llywodraeth wedi addo mesurau diogelu ond wedi methu negodi hynny. Bydd y cytundeb a gytunwyd yn cynyddu cwota di-
dariff Awstralia ar gyfer cig oen a chig defaid o ychydig dros 13,000 tunnell i 25,000 tunnell y flwyddyn yn syth, a bydd y cwota ar gyfer cig eidion yn codi o 3,700 tunnell i 35,000 tunnell. Yna bydd y ddau gwota yn cynyddu dros ddeng mlynedd i 110,000 tunnell a 75,000 tunnell yn y drefn honno.
“Fodd bynnag, yr agwedd fwyaf pryderus am y cytundeb hwn yw ei fethiant i amddiffyn buddiannau ffermio Cymru gan anfon arwydd pryderus i wledydd eraill sy’n gobeithio dod i gytundeb masnach gyda’r DU. Mae'n anochel y bydd gwledydd eraill yn mynnu telerau ffafriol tebyg i'w ffermwyr eu hunain mewn trafodaethau gyda'r DU, ac o ystyried y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ildio i fuddiannau Awstralia yn y cytundeb hwn, nid oes gennyf lawer o hyder y bydd y DU yn gallu gwrthsefyll ceisiadau tebyg gan wledydd fel Canada, Seland Newydd ac Unol Daleithiau America.
"Trwy lofnodi'r cytundeb masnach hwn, mae'r Prif Weinidog yn gwawdio ein targedau hinsawdd, ac yn agor y drws i gonsesiynau pellach i wledydd eraill sy'n allforio cig fyddai'n bygwth hyfywedd tymor hir ein sector da byw domestig."
Dangos 1 ymateb