O dan Gyfraith Ewrop, rhoddir Statws Daearyddol Gwarchodedig i nifer o gynhyrchion bwyd a diodydd y DU; i amddiffyn enw da cynhyrchion rhanbarthol, hyrwyddo gweithgaredd traddodiadol ac amaethyddol a dileu cynhyrchion nad ydynt yn ddilys, a allai gamarwain defnyddwyr neu fod o safon israddol.
Sefydlwyd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol i hyrwyddo ac amddiffyn Bwydydd y DU a Warchodir yn Ddaearyddol oherwydd ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd AS Ceredigion, Ben Lake:
“Rwy’n falch iawn i fod yn bresennol yn yr APPG ar Fwydydd a Warchodir yn Ddaearyddol y prynhawn yma. Mae gan Ceredigion a Chymru draddodiad balch o gynnyrch bwyd a diod rhagorol, sydd wedi chwarae rhan annatod wrth lunio ein cymunedau a'n diwylliant.
“Yn y cyfnod o drosglwyddo o’r Undeb Ewropeaidd, mae’n bwysicach fyth cael mecanwaith syml, cadarn a chynhwysol i’n hamddiffyn yn ddiwylliannol ac yn ddaearyddol."