Cefndir
- Wedi treulio’r rhan fwyaf o'i bywyd ym Mhont-rhyd-y-groes, gan weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn organydd capel.
- Yn adnabyddus am ei dadansoddiad rheolaidd o ffigyrau Covid yng Nghymru a Cheredigion (#Covid19Cymru ar Twitter; Newyddion S4C; tyst arbenigol i’r Senedd).
- Ymgeisydd ar restr ranbarthol i Blaid Cymru, etholiadau’r Senedd 2021.
Pam pleidleisio dros Angharad
"O dan y llywodraeth bresennol yn San Steffan, mae ein cymunedau’n ei chael hi’n anodd. Collwyd cymorthdaliadau ffermio drwy Brexit, ac nid yw’r hyn a addawyd gan San Steffan wedi ei wireddu. Mae siopau a thafarndai gwledig dan bwysau. Mae angen diogelu calonnau ein pentrefi.
Mae twristiaeth yn fendith ac yn felltith i ni. Mae’n ffynhonnell incwm, ond eto yn broblem ar gyfer tai ac adnoddau eraill. Mae Covid wedi tynnu sylw at yr isadeiledd band eang gwael yn ardaloedd gwledig Ceredigion.
Ond, mae pethau y gallwn ni eu gwneud. Gyda’n gilydd, drwy ein cyngor dan arweiniad Plaid Cymru a chytundeb rhannu pŵer yng Nghaerdydd, mae gennym ddylanwad. Gallwn, a mynnwn, wneud yn well."
Blaenoriaethau Angharad
"Nid yw’n gyfnod hawdd i gymunedau gwledig. Mae angen i ni fynd i’r afael â heriau gwrthgyferbyniol megis:
- Tai i bobl leol, a thwristiaeth;
- Cyflogaeth wledig, a chyflwr gwael yr economi;
- Ffermio a chefn gwlad, a cholli incwm ffermio, gyda chwmnïau mawrion yn prynu tir i wrthbwyso eu hôl troed carbon drwy blannu fforestydd;
- Toriadau ariannol a osodir ar awdurdodau lleol, a chynnal a chadw ffyrdd, ysgolion, mynediad i lyfrgelloedd, a chyfleusterau chwaraeon a hamdden.
Mae’r materion hyn yn effeithio ar ardaloedd gwledig yn benodol. Byddaf bob amser yn gwarchod ein buddiannau. Mae angen diogelu canolfannau’r pentrefi, sydd wedi dioddef ergydion yn ystod Covid; siopau, tafarndai, caffis, y canolfannau y mae ein cymunedau’n dod ynghyd o’u cwmpas. Ac mae angen yr isadeiledd digidol arnom er mwyn sicrhau, waeth beth fydd yn digwydd yn y byd y tu hwnt i’n rheolaeth, y bydd gennym fynediad cyflym a dibynadwy i’r hyn yr ydym ei angen."
Manylion cyswllt |
[email protected] |
07896 049153 |
www.twitter.com/angharadhafod |
Dangos 1 ymateb