Amanda Edwards: Beulah a Llangoedmor

Graphics_Cyhoeddi_Ymgeiswyr_(22).png

Cefndir

  • Yn byw yn y ward, yn benodol yn Llechryd, ers 28 mlynedd
  • Angerddol am ein cymuned
  • Gweithredol yn nigwyddiadau a mudiadau’r pentref
  • Cynghorydd cymuned Llangoedmor am 11 mlynedd
  • Wedi magi'u theulu ym mhentref Llechryd gyda'r plant yn mynychu’r ysgol gynradd
  • Cymraeg iaith gyntaf
  • Gweithio’n lleol yn Aberteifi ac yn cyfrannu i’r economi leol

Pam pleidleisio dros Amanda?

"Wedi gwasanaethu fel cynghorydd cymuned am sawl blwyddyn, nid oeddwn erioed wedi ystyried dod yn gynghorydd sir tan i rywun awgrymu hyn i mi yn ddiweddar, ac rwyf wedi penderfynu sefyll fel cynghorydd yn fy nghymuned yn y gobaith o barhau â’r gwaith da a wnaed eisoes.

Yn wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn, symudodd fy rhieni i Lady Road Uchaf ar ddechrau’r 1990au ac rwy’n byw yn Llechryd gyda fy ngŵr a dau o blant ers 28 mlynedd. Wedi gweithio mewn Brocer Yswiriant lleol yn Aberteifi, ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda fy ngŵr yn ei fusnes, rwyf wedi gwneud llawer o gysylltiadau o fewn y ward estynedig y gobeithiaf cael fy ethol i’w chynrychioli.

Bûm yn llywodraethwr ar Ysgol Gynradd Llechryd ac rwy’n gynghorydd hirsefydlog ar gyngor cymuned Llangoedmor, ac yn mwynhau bod yn llais i’r bobl lle bynnag y gallaf.

Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn aelod o Parti yn y Parc, sydd, dros y ddegawd ddiwethaf, yn trefnu digwyddiadau yn y pentref, cinio Nadolig i’r genhedlaeth hŷn, gweithgareddau i blant, a phan ddaeth Covid yn rhwystr sefydlwyd grŵp cymorth i gefnogi llawer o bobl yn ystod y pandemig gyda chasgliadau bwyd a fferylliaeth.

Rwyf hefyd yn ymwneud â Neuadd Coracle, gan sicrhau y caiff ei redeg yn esmwyth, ac wedi bod yn rhan o’r grŵp gwrthsefyll llifogydd i gefnogi trigolion Llechryd pan fo llifogydd.

Mae angen i gynghorydd fod yn berson sy’n angerddol ac yn ymroddedig i’w cymuned, ac rwy’n teimlo y gallaf ddod â hyn i drigolion ward Llangoedmor a Beulah. Rwy’n hygyrch ac yn gyfeillgar a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i helpu ble bynnag y gallaf ac ymdrechu i ddysgu gymaint â phosib er mwyn cyflawni’r rôl hon."

Blaenoriaethau Amanda

"Y blaenoriaethau ar gyfer fy ardal fydd helpu’r gymuned y gorau y gallaf.

Byddwn yn canolbwyntio ar gefnogi’r economi leol, gweithio i ehangu twristiaeth, cynorthwyo pobl leol gyda thai lleol, gweithio tuag at gynllun teithio llesol cynhyrchiol, gweithio i wella’r agenda werdd wrth leihau ein hôl troed carbon a’r agenda gofal cymdeithasol ar gyfer ein poblogaeth sy’n heneiddio.

O fewn y ward, mae afon Teifi a llifogydd yn broblem fawr, a hoffwn barhau i weithio ar ffyrdd i geisio gwella’r sefyllfa. Bydd hon yn dasg fawr ond yn un bwysig.

Fel cynghorydd cymuned rwyf wedi bod yn rhagweithiol gyda phrosiectau yn y gorffennol, megis byrddau hysbysebu, adnewyddu offer yn y parc, diffibriliwr a’i hyfforddiant, rhaglenni cerdded, grŵp gwydnwch, a mwy. Nid oes arnaf ofn rhoi fy marn, lleisio fy mhryderon na gweithredu pan fo angen."

 

Manylion cyswllt
07973 145790
[email protected]
 

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-01-26 18:24:55 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.