Ben Lake AS yn cydweithio gyda Alzheimer's Research UK

Dementia.jpg

Mae un o bob pump o oedolion y DU yn dal i gredu ar gam fod dementia yn rhan anochel o heneiddio

• Mae'r elusen ar genhadaeth i frwydro yn erbyn y camargraff difrifol bod dementia yn rhan anochel o heneiddio. Mae ei ymgyrch newydd ‘#ShareTheOrange’, sy’n cynnwys Samuel L. Jackson, yn tynnu sylw at y ffaith bod afiechydon corfforol yn achosi dementia, Alzheimer’s yn fwyaf cyffredin gan ddefnyddio oren i symboleiddio pwysau'r hyn a gollir yn yr ymennydd wrth i’r cyflwr ddatblygu. 

• Mae’r ymgyrch yn digwydd yn ystod Mis Alzheimer’s y Byd, rhwng 16 a 30 Medi.

Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion yn ymuno ag Alzheimer’s Research UK i alw am fwy o ymwybyddiaeth o ddementia a’r angen am fwy o ymchwil. Daw’r cyhoeddiad cyn Diwrnod Alzheimer’s World (dydd Sadwrn 21 Medi) ac wrth i’r elusen lansio ymgyrch ymwybyddiaeth newydd fawr gyda Samuel L. Jackson yn cymryd rhan flaenllaw.

Er mai dementia yw prif achos marwolaeth y DU bellach, canfu arolwg barn diweddar fod 22% yn dal i gredu ar gam fod dementia yn rhan anochel o heneiddio. Mae Alzheimer’s Research wedi ymuno â Samuel L. Jackson ar gyfer yr ymgyrch #ShareTheOrange i dynnu sylw at y ffaith bod afiechydon corfforol yn achosi dementia gan ddefnyddio oren i symboleiddio pwysau'r hyn a gollir yn yr ymennydd wrth i’r cyflwr ddatblygu.

Nid yw afiechydon fel Alzheimer’s yn rhan arferol o’r broses heneiddio. Maent yn glefydau corfforol sy'n niweidio'r ymennydd. Dyma’r neges sydd wrth wraidd ymgyrch Rhannu’r Oren Alzheimer’s Research UK. Yn y ffilm ymgyrchu, eglura Samuel: “Gall y niwed i ymennydd ag Alzheimer’s ei adael yn pwyso 140g yn llai nag un iach. Mae hynny tua phwysau oren ... mae hyn yn dangos i mae clefyd corfforol yw e... ”

 Samuel ymlaen i ddisgrifio sut: “mae dementia yn taro ar adnodd mwyaf gwerthfawr dynoliaeth, celloedd ymennydd dynol… mae’n dinistrio’r celloedd gwerthfawr hyn a’r cysylltiadau rhyngddynt.”

Daw’r ffilm #ShareTheOrange i ben gyda gobaith wrth i Samuel L. Jackson nodi: “… gydag ymchwil rydym yn gwybod y gellir arafu afiechydon, gellir eu hatal.” Mae’n galw ar y cyhoedd i rannu’r ffilm i “newid y sgwrs a helpu Alzheimer's Research UK wneud y datblygiadau arloesol hyn yn bosibl ar gyfer dementia ”.

Mae Alzheimer wedi effeithio ar deulu’r Samuel yn fwy na’r mwyafrif, gyda chwe pherthynas â diagnosis o’r clefyd. Meddai: “Profwyd o glefydau eraill trwy gydol hanes, lle mae ymchwil y gellir iachau. Lle mae ymchwil, mae gobaith. Trwy rannu’r wybodaeth nad yw afiechydon fel Alzheimer’s yn rhan annatod o henaint yn unig, mae gennym y pŵer i wthio ymchwil ymlaen a rhoi diwedd ar y dinistr hwn. Rhaid i ni weithredu nawr i gyflymu ymchwil tuag at ddatblygiadau arloesol. ”

Dywedodd Ben Lake:

“Mae Alzheimer’s yn glefyd creulon a di-ildio sy’n effeithio ar gynifer o deuluoedd ledled Cymru. Pan fydd unigolyn yn dechrau colli ei gof, mae rhywbeth mwy na'r cof yn y fantol. Nid cofio yn unig yw cof, ac nid anghofio yn unig yw colli cof. Mae cof yn gyfrifol am greu parhad, ystyr a chydlyniant i ni'n hunain ac i'r rhai o'n cwmpas.

“Rwy’n hyderus, gydag ymchwil wyddonol ddatblygedig, gwaith caled a chefnogaeth hael, y gallai Alzheimer’s Research UK, un diwrnod, mewn realiti, ddod o hyd i iachâd ar gyfer y clefyd creulon hwn.”

Dywedodd Hilary Evans, Prif Weithredwr Alzheimer’s Research UK:
“Mae ymchwil wedi gwneud datblygiadau mawr mewn meysydd afiechyd eraill yn ystod y blynyddoedd diwethaf a gallwn wneud yr un peth ar gyfer y clefydau, fel Alzheimer’s, sy’n achosi dementia. Mae ein gwyddonwyr eisoes yn gwneud darganfyddiadau hanfodol a gyda mwy o gefnogaeth i'w gwaith, gallwn droi darganfyddiadau yn ddatblygiadau arloesol sy'n newid bywyd yn gyflymach. ”

“Rydyn ni’n galw ar y cyhoedd i rannu #ShareTheOrange, troi’r angheuol yn obaith a throi dementia i’r stori lwyddiant feddygol fawr nesaf trwy gefnogi ymchwil arweiniol Alzheimer’s Research UK.”

Mae'r ymgyrch #ShareTheOrange, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn ei thrydedd blwyddyn erbyn hyn; cefnogodd seren Breaking Bad, Bryan Cranston, ymgyrch 2018, a daeth yr ymgyrch i ben yn 2016 gyda chefnogaeth cyn-seren Doctor Who, Christopher Eccleston.

Alzheimer’s Research UK yw prif elusen ymchwil dementia’r DU a’r llynedd addawodd ymrwymo cyllid o £250m pwysig tuag at ymchwil feddygol arloesol i’r cyflwr erbyn 2025.

Dementia yw her feddygol fwyaf y byd, nid yn unig i'r unigolion yr effeithir arnynt a'u teuluoedd, ond i'r gymdeithas gyfan. Mae gan dros 850,000 o bobl yn y DU ddementia, ac mae'r cyflwr yn cael effaith economaidd o dros £26bn y flwyddyn yn y DU - mwy na chanser a chlefyd y galon gyda'i gilydd.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.