Cefndir
- Cyn-nyrs iechyd meddwl yw Alun sy’n byw yng nghanol y ward newydd.
- Ef yw Maer Aberystwyth ar gyfer 2021–22, mae’n weithgar gydag amrywiaeth o grwpiau gwirfoddol lleol, ac mae wrthi’n rheolaidd yn arwain y gwaith o gasglu sbwriel yn y gymuned.
Pam pleidleisio dros Alun?
"Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn gynghorydd sir dros ward Bronglais ers blynyddoedd lawer.
Ar gyfer yr etholiad hwn mae’r tair ward cyngor sir, Bronglais a wardiau Gogledd a Chanol Aberystwyth, yn cael eu huno i ffurfio un ward gyda dau gynrychiolydd, o’r enw Aberystwyth Morfa a Glais.
Fel rhywun sy’n caru Aberystwyth ac sydd wastad yn bositif ynglŷn â’r dref a’n safle allweddol o fewn Cymru, rwy’n awyddus iawn i barhau i weithio ar ran y trigolion lleol drwy gynrychioli’r ward newydd.
Cofiwch gysylltu â mi os hoffech i mi eich helpu gydag unrhyw beth. Bu’r ddwy flynedd ddiwethaf yn eithriadol o anodd i bawb, ond mae Aberystwyth yn wynebu dyfodol disglair."
Cyflawniadau a blaenoriaethau Alun
Dros ddau dymor diwethaf y Cyngor Alun fu Hyrwyddwr Cynaliadwyedd Cyngor Sir Ceredigion, gan arwain llwyddiant y Cyngor wrth leihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Dros y blynyddoedd mae wedi gweithio’n llwyddiannus i sicrhau:
- Cyflwyno casgliadau o ddeunydd ailgylchu wrth ymyl y ffordd, gan gynnwys gwydr.
- Llwybrau newydd a gwell ar gyfer cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn.
- Gwelliannau i fannau gwyrdd y dref, er enghraifft, ym Mharc Natur Penglais a Ffordd y Gogledd.
- Diogelwch ar y ffyrdd a gostwng terfynau cyflymder.
Mae wedi defnyddio ei brofiad ym maes iechyd i roi cefnogaeth gref i Ysbyty Bronglais, gan gadeirio cangen Ceredigion o’r Cyngor Iechyd Cymuned a gwasanaethu fel Aelod o’r Cabinet â chyfrifoldeb am ofal cymdeithasol.
Mae’n gwybod bod dyfodol economaidd y dref yn dibynnu ar gefnogi ein busnesau bychain ynghyd â sefydliadau sector cyhoeddus fel yr ysbyty, y brifysgol a’r Llyfrgell Genedlaethol.
Mae Alun yn meddwl mewn modd positif bob tro ac yn hyrwyddwr heb ei ail i’n tref fendigedig.
Manylion cyswllt |
[email protected] |
01970 617544 |
07870 798346 |
Dangos 1 ymateb