Bil Amaethyddiaeth: Plaid Cymru yn galw am gydweithio traws-lywodraethol a chomisiwn masnach

Ffermio.jpg

Mae angen mesurau cryfach i amddiffyn ffermwyr Cymru rhag mewnforion rhad o ansawdd isel, meddai Ben Lake AS

Cyn cynnal dadl ar y Bil Amaethyddiaeth yn Nhŷ’r Cyffredin mae AS Plaid Cymru Ben Lake wedi galw am fframweithiau rhynglywodraethol cryfach a chomisiwn masnach i amddiffyn safonau bwyd yn dilyn ymadawiad y DU o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Mae Mr Lake. sy'n cynrychioli Ceredigion, etholaeth wledig ar y cyfan, wedi galw am fframweithiau rhynglywodraethol cryfach ar amaethyddiaeth, i ddisodli Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE. Byddai hyn yn sicrhau chwarae teg ar draws pedair gwlad y DU ar faterion megis cymorth ariannol i ffermwyr.

Galwodd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn eu hadroddiad ar dirwedd polisi ôl-Brexit, Llenwi’r Gwagle, am “sefydlu fframwaith llywodraethu sy’n cynnwys cyrff sy’n gwneud penderfyniadau ac yn parchu pwerau datganoledig yn llawn wrth gytuno, gorfodi a chyflafareddu rheolau cyffredin cytunedig.”

Gan adeiladu ar alwadau gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), mae Mr Lake hefyd yn galw am gomisiwn safonau masnach i oruchwylio bargeinion masnach newydd er mwyn atal safonau bwyd rhag cael eu peryglu gan fewnforion rhad o ansawdd isel.

Bydd deddfwriaeth San Steffan, a fydd yn disodli’r Polisi Amaethyddol Cyffredin ar ddiwedd yr hyn a elwir yn ‘gyfnod pontio Brexit’, yn cael ei Ail Ddarlleniad - dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil - yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw (3 Chwefror).

Er bod polisi amaeth wedi'i ddatganoli i raddau helaeth, mae Bil Amaethyddiaeth San Steffan yn cynnwys mesurau sy'n ymwneud â Chymru, gan gynnwys dyletswydd ar Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i adrodd bob pum mlynedd ar gyflwr diogelwch bwyd y DU.

Cyn y drafodaeth ar y Bil, dywedodd Ben Lake AS:

“Amaethyddiaeth yw asgwrn cefn yr economi wledig nid yn unig yng Nghymru, ond yn y DU. Rwy'n ofni bod llywodraeth San Steffan mewn perygl o wneud cam â’n ffermwyr er mwyn gweld enillion masnach cyflym.

“Ni allwn gael system amaethyddol newydd fydd yn ffafrio rhai sectorau ar draul eraill, neu un wlad dan anfantais gan farchnad fewnol ystumiedig. Dyna pam mae angen dull rhynglywodraethol arnom, sy'n sicrhau bod pryderon ffermydd teulu yng Nghymru yn cael gwrandawiad teg.

“Rhaid peidio â thanseilio safonau mewn unrhyw gytundeb masnach chwaith. Dyna pam yr wyf yn galw am gomisiwn masnach i sicrhau nad yw ein cynnyrch sydd o safon uchel byd-eang yn cael ei dandorri gan fewnforion o ansawdd is.

“Mae hyn am fwy na’r economi wledig, mae’n ymwneud ag ansawdd y bwyd rydyn ni’n ei roi ar ein plât.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.