Achub ein Canolfannau Ymwelwyr

Ddechrau’r flwyddyn 2024, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru y bwriad i orffen rhedeg y caffi a siop yn eu canolfannau ymwelwyr, gan gynnwys Bwlch Nant-yr-Arian ac yn Ynyslas.

Diweddarwyd y dudalen yma ar 12.05.25

Datganiad ynghylch dyfodol canolfannau ymwelwyr CNC gan Elin Jones - 12/05/25 - darllenwch fan hyn

Mae’r canolfannau yma yn hollbwysig i economi ac amgylchedd Ceredigion. Mae Elin Jones AS wedi gweithio gyda chynghorwyr a grwpiau lleol i geisio dwyn perswad ar Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gadw’r canolfannau yma yn weithredol tan fod yna bartner yn cael ei benodi i gymryd drosodd.

Yn ogystal â chwrdd â’r CNC, cafodd Elin y cyfle i siarad yn y brotest trefnwyd yn Nant-yr-Arian a’r cyfarfod cyhoeddus yn Borth, a mae hi mewn cysylltiad rheolaidd gyda’r sefydliadau/grwpiau sydd â diddordeb mewn rhedeg y safleoedd.  Yr hyn sy’n bwysig i Elin nawr yw i sicrhau nad oes yna doriad yn y gwasanaethau a gynigir yn Bwlch Nant-yr-Arian ac Ynyslas er lles yr holl ymwelwyr, pell ac agos.

Fodd bynnag, mae CNC wedi cyhoeddi y bydd y ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo yn y canolfannau ymwelwyr yn parhau tan 31 Mawrth 2025, ac yna byddant yn cau. Ar ben hynny, dim ond ar ôl iddynt gau, bydd CNC yn lansio ymarfer cyhoeddus i chwilio am bartneriaid a allai fod â diddordeb i helpu i redeg y gwasanaethau hyn ym Mwlch Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin yn y dyfodol.

Bydd yr holl lwybrau, y maes parcio, yr ardal chwarae a’r toiledau yn parhau ar agor yn y safleoedd.

Dywedodd Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol CNC: "Rydym yn deall pa mor bwysig yw ein safleoedd i gymunedau lleol ac i ymwelwyr ac rydym yn gwybod bod y penderfyniad i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau arlwyo a manwerthu wedi siomi llawer o bobl.

“Mae ein bwrdd wedi gwneud y penderfyniad mewn ymateb i'r sefyllfa ariannol gyfyng iawn yr ydym ni a chyrff cyhoeddus eraill yn ei hwynebu.

"Byddwn yn chwilio am bartneriaid - yn grwpiau cymunedol ac yn fusnesau - i gofrestru diddordeb i ddarparu’r gwasanaethau hyn wrth symud ymlaen, a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth ar sut i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb cyn lansio unrhyw ymarfer tendro."

Mae rhagor o wybodaeth, yn ogystal ag atebion i gwestiynau cyffredinol, ar wefan CNC fan hyn.

Maes o law, byddwn yn defnyddio gwefan GwerthwchiGymru, a gall unrhyw un sydd â diddordeb gofrestru ar y platfform cyn i unrhyw broses ddechrau.

📨 Derbyn diweddariadau am ganolfannau ymwelwyr gan Elin


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Ymgyrchoedd 2024-12-17 17:25:01 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.