Ben Lake yn cadeirio trafodaeth am wasanaethau ariannol yng nghefn gwlad

PSR_meeting_2.jpg

Ymwelodd Charles Randell, Cadeirydd y Rheoleiddiwr Systemau Talu (Payment Systems Regulator - PSR), ag Aberaeron i gael trafodaethau gyda Ben Lake, yr AS lleol, am yr hyn y mae’r rheolydd yn ei gyflawni i sicrhau bod gan bobl y dewis a’r gallu i gael gafael ar arian parod i dalu am bethau.

Er bod defnyddwyr a chymdeithas yn y DU yn defnyddio ystod eang o ffyrdd i dalu, mae gallu talu gydag arian parod yn parhau i fod yn bwysig. Mae'r defnydd o gardiau a dulliau digidol eraill yn cynyddu, sy'n golygu mai cardiau bellach yw'r dull talu a ddefnyddir amlaf yn y DU. Fodd bynnag, mae ymchwil y PSR yn dangos bod dros 80% ohonom yn talu am rywbeth gan ddefnyddio arian parod bob wythnos ac mae lleiafrif sylweddol sydd, am amryw resymau, yn parhau i ddibynnu ar dalu mewn arian parod.

Gyda'r newid parhaus i daliadau digidol, bu pryderon y byddai peiriannau ATM heb dâl i’w defnyddio yn cau, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Dywed y PSR ei bod yn bwysig bod gan bawb ddewis da o sut i wneud taliadau, mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw ac maent eisiau sicrhau bod defnyddwyr yn dal yn gallu dewis defnyddio arian parod.

Amcan cyffredinol y rheolydd yw cefnogi mynediad i arian parod sy'n diwallu anghenion unrhyw un sy'n gwneud taliadau, gan gynnwys mynediad daearyddol eang, i ddefnyddwyr y DU sydd ei angen neu sydd am ei ddefnyddio fel dull talu. Mae'n cynnal rhaglen waith i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud taliadau yn y ffordd maen nhw ei eisiau.

Mae'r PSR yn cynnal rhaglen waith i sicrhau y gall pobl wneud taliadau yn y ffordd y maent eisiau ac mae eisoes wedi gwneud darn sylweddol o waith gyda LINK - rhwydwaith ATM mwyaf y DU - i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ymrwymiad i gynnal y lledaeniad daearyddol presennol o beiriannau ATM am ddim ar gyfer mynediad i arian parod. Roedd hyn yn cynnwys yr PSR yn defnyddio ei bwerau rheoleiddio a roddodd Gyfarwyddyd Penodol i LINK ar ddiwedd 2018. Yn y tymor byr bydd yr PSR yn parhau i ddal LINK i gyfrif am ei ymrwymiad i warchod y lledaeniad daearyddol eang presennol o beiriannau ATM heb dâl i’w defnyddio - ond mae mwy ei wneud.

Mae'r trafodaethau hyn gyda phobl a busnesau o Geredigion yn ffordd arall mae'r PSR yn gweithio i ddeall anghenion pawb.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Ben Lake:

“Rwy’n falch bod y PSR wedi cymryd yr amser i ddod i weld, o lygad y ffynnon, brofiadau pobl a busnesau yng Ngheredigion.

“Rwy’n deall bod y rheolydd yn gweithio i sicrhau bod mynediad i arian parod parhaus i bawb. Rwy'n ddiolchgar am y trafodaethau agored gyda Charles Randell, Cadeirydd yr PSR, am y mater pwysig hwn.

“Mae cau canghennau banc mewn ardaloedd gwledig wedi golygu bod pobl yn gorfod teithio milltiroedd i’w cangen banc agosaf, ac i lawer o fusnesau a chwsmeriaid mae’r pellter yn rhwystr sylweddol i gael mynediad at wasanaethau ariannol. Cyflwynais Fil yn y Senedd a fyddai’n ceisio sicrhau bod pobl a busnesau mewn ardaloedd gwledig yn gallu parhau i gael mynediad at wasanaethau bancio sylfaenol lle bynnag y bônt, ac felly roeddwn yn falch iawn o groesawu’r panel PSR i Geredigion. ”

Dywedodd Charles Randell, Cadeirydd yr PSR:

“Mae llawer o ddefnyddwyr yn defnyddio llai o arian parod i dalu am bethau, ond nid yw hynny i bawb. Mae angen dewis ar bobl o hyd ar sut maen nhw'n talu.

“Mae treulio amser gyda chymunedau lleol a chlywed eu profiadau yn ein helpu i chwarae ein rhan wrth gynnal y dewis hwnnw.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.