Oedi ar waith gwella cyffordd beryglus yr A487

DorglwydJuncion.jpg

Gwaith arfaethedig ar gyffordd Dorglwyd wedi ei oedi

Mae Elin Jones AC a Ben Lake AS wedi nodi eu rhwystredigaeth yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn nodi bydd gwaith gwella arfaethedig ar gyffordd Dorglwyd ar y A487 o Comins Coch yn cael ei oedi.

Mae'r gyffordd wedi profi amryw o wrthdrawiadau dros y blynyddoedd diwethaf, gyda thrigolion lleol yn galw am ddatblygiad cylchfan neu fesurau distewi traffig i helpu ddatrys y broblem.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn Medi 2016 byddai astudiaeth ymarferoldeb yn cael ei gynnal erbyn y Haf canlynol er mwyn medru ystyried opsiynau posib i wella’r gyffordd.

Fodd bynnag, mewn llythyr diweddar i Elin Jones AC a Ben Lake AS cyhoeddodd Ken Skates AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Rydym yn ymwybodol o’r pryderon ynghylch y gyffordd ac mae cynllun gwella wedi bod yn ein rhaglen datblygu ers gryn amser. Yn anffodus yn sgil prinder adnoddau ariannol ar blaenoriaethau eraill, mae’r cynnydd wedi bod yn araf.”

“Rydym ar hyn o bryd yn adolygu’r sgôp o ddatblygiad posib, gan ystyried datrysiadau fforddiadwy ac a fyddai’n lleihau’r effaith amgylcheddol. Pan fyddwn mewn safle i gynnig datrysiadau posib, caiff gweithdy ei gynnal gyda rhanddeiliad. Byd hyn yn debygol o fod yn gynnar yn 2019”.

Dywedodd Elin Jones AC:

“Tra rwyf yn croesawu math eglurhad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar gamau nesaf ar gyffordd Dorglwyd, mae hi yn siomedig i ddarllen na fydd unrhyw waith sylweddol yn cael ei ganlyn yn sgil cost y prosiect. Serch hynny, mae hi yn gadarnhaol i weld bydd gwelliannau llai o faint yn cael eu canlyn, gyda ymgynghoriad yn debyg o gael ei gynnal yn 2019.”

Ychwanegodd John Roberts, y cynghorydd sir lleol dros ward Faenor:

“Rwyf yn rhannu siom Elin Jones a Ben Lake ynghylch yr ymateb gan Ken Skates AC. Y cynllun gwreiddiol oedd i grisialu prosiect ehangach, gan gynnwys ffordd osgoi Llanbadarn, felly mae angen bod yn fwy realistig ar gyfer ein disgwyliadau dros gornel Dorglwyd. Wedi cwrdd gyda Elin Jones AC a Ben Lake AS wythnos diwethaf roeddem o’r farn y byddai prosiect llai ei faint yn opiswn wrth ddatrys mater Dorglwyd, ac yn gryn rhatach na’r syniad blaenorol. Edrychaf ymlaen i’r cyfnod ymghynghori yn 2019”.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.