Yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) am eu cynnig i ddod â dysgu israddedig ar eu campws yn Llambed i ben ddiwedd y flwyddyn academaidd, mae Ben Lake AS ac Elin Jones AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r brifysgol i barhau i ddysgu ar y campws.
Mae prifysgol mawreddog wedi bodoli yn Llambed ers dros 200 o flynyddoedd, ac roedd yn sylfaen hanfodol ar gyfer sefydlu Prifysgol Cymru. Wrth iddi wynebu nifer o heriau, mae PCDDS wedi cynnig i ddod â dysgu israddedig yn Llambed i ben yn gyfangwbl. Nid yn unig fydd hyn yn effeithio ar y myfyrwyr a’r staff, ond bydd hefyd yn cael effaith andwyol sylweddol ar y dref a’r economi leol.
Dywedodd Elin Jones AS: “Mae dysgu israddedig yn ran allweddol o bwrpas unrhyw brifysgol. Hebddo, fyddai Llambed ddim yn dref prifysgol. Mae’n drychinebus, a dwi’n erfyn ar Lywodraeth Cymru a’r Brifysgol i ddod o hyd i gynllun arall ar gyfer y campws yma, hyd yn oed ar yr unfed awr ar ddeg yma. Mae’n ddigon drwg cyhoeddi’r posibilrwydd o ddod â dysgu israddedig i ben, ond mae gwneud hynny heb gynllun arall yn annerbyniol.”
Dywedodd Ben Lake AS: “Mae sefydliadau addysg uwch ar draws y DU yn gwynebu heriau sylweddol, ond mae’n hanfodol fod pob opsiwn posib yn cael ei ystyried i sicrhau campws y brifysgol yn Llambed. O ystyried ei bwysigrwydd i’r economi leol, yn ogystal â’i hanes fel man geni addysg uwch yng Nghymru, mae’n hollol briodol fod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd i gynnig cefnogaeth i’r brifysgol allu diogelu ac adfywio y campws yn Llambed.”
Dangos 1 ymateb