AC yn croesawu £27 miliwn o gyllid ychwanegol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda

Elin2015-3758_(2).jpg

Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod angen cyllido er mwyn llenwi bwlch hanesyddol

Mae Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, wedi croesawu y penderfyniad i roi £27 miliwn o gyllid ychwanegol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, yn dilyn adolygiad ar y costau eithafol sydd ar y bwrdd iechyd o ganlyniad i nodweddion unigryw y rhanbarth mae’n gynrychioli.

Mae adolygiad gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o gefnogaeth Targedu Ymyrraeth a ddarparwyd i Fwrdd Iechyd Hywel Dda wedi canfod bod dau ffactor, demograffeg a graddfa, yn creu costau ychwanegol na ellid eu hosgoi.

Mae’r adolygiad, a wnaed gan Deloitte LLP, yn cadarnhau barn llawer iawn o bobl Ceredigion a chanol a gorllewin Cymru bod Hywel Dda yn wynebu set unigryw o sialensau gofal iechyd.  Mewn ymateb, penderfynodd Llywodraeth Cymru i ryddhau £27 miliwn o gyllid ychwanegol rheolaidd i’r Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Elin Jones AC:

“Dyma adroddiad i’w groesawu gan Deloitte sy’n dadansoddi costau y gellid eu hosgoi a’r rhai na ellir eu hosgoi – gan cydnabod bod demograffeg a graddfa rhanbarth Hywel Dda yn cyfrannu at gostau ychwanegol.

“Rwy’n falch bod hyn wedi darparu tystiolaeth i Ysgrifennydd y Cabinet ar Iechyd er mwyn iddo gynyddu cyllid Hywel Dda gyda £27 miliwn ychwanegol pob flwyddyn.  Bydd hyn yn rhyddhau cyllid ychwanegol sydd gwir eu hangen ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Ngheredigion.  Fodd bynnag, nid oes ateb eto ar a fydd hyn yn ddigon i gwrdd ag anghenion llawn y gost o redeg y GIG yng ngorllewin Cymru.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.