Y Senedd yn cymeradwyo cyflwyno cyfyngiadau cyflymder 20mya

Tra’n croesawu’r manteision ddaw yn sgîl y gyfraith 20mya newydd, mae Elin Jones AS yn galw am gysondeb wrth iddo gael ei rolio allan i bentrefi.

Yr wythnos yma, bu i Aelodau’r Senedd gymeradwyo cyflwyniad cyfraith newydd bydd yn galluogi cyfyngiadau cyflymder i gael eu lleihau o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adleiledig yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Bwriad y ddeddf yw i leihau gwrthdrawiadau a sŵn ar y ffordd, yn ogystal â gwella diogelwch y ffordd i gerddwyr a beicwyr.

Mae data diweddaraf yr heddlu yn dangos fod 50% o’r 5,570 o bobl anafwyd mewn gwrthdrawiadau yng Nghymru wedi dioddef yr anaf mewn parthau 30mya.

Dywedodd Elin Jones AS: ‘Mae nifer o bentrefi a threfi yng Ngheredigion am leihau cyflymder yn eu cymunedau fel bod plant yn fwy diogel ar eu strydoedd, a gall pawb gerdded gyda llai o risg o wrthdrawiad. Ond, mae nifer o gymunedau Ceredigion ar hyd gefnffyrdd yr A487 ac A44, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyndyn iawn yn y gorffennol i leihau’r cyfyngiadau cyflymder ar y ffyrdd yma. Dwi’n gwybod fod trigolion cymunedau o Dalybont i Flaenporth, ac o Capel Bangor i Bonterwyd am deimlo mor ddiogel â person sy’n byw mewn ardal adeiledig. Mae’n rhaid i ni sicrhau fod cymunedau ar hyd y cefnffyrdd yn cael eu trîn yn deg yn yr asesiad 20mya. Mae’r cymfaint o draffig a loriau ar y cefnffyrdd hefyd yn gwneud hyn yn gwbl angenrheidiol.’

Dywedodd y Cynghorydd Sir Catrin M.S. Davies: ‘Bydd cymunedau fel Talybont a phentrefi eraill ar hyd yr A487 yn elwa’n fawr o’r newid yma i’r gyfraith. Fel un o drigolion Talybont dwi’n ymwybodol iawn o’r peryglon sy’n wynebu trigolion, yn enwedig plant ysgol y pentref, pan byddant yn cerdded ar eu ffordd i’r ysgol. Bydd y ddeddfwriaeth yma, ynghyd a mesurau diogelwch y ffordd eraill fydd yn cael eu cyflwyno o gwmpas yr ysgol yn Nhalybont yn creu cymuned llawer mwy diogel i’r plant, i deuluoedd a’r gymdogaeth gyfan.’


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2022-07-18 09:49:22 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.