Ben Lake AS a'i fryd ar gyflwyno cyfraith newydd yn San Steffan

Aelod Seneddol Plaid Cymru yn rhoi cynnig ar gyflwyno cyfraith newydd fyddai'n ei gwneud hi'n anos i fanciau gau

Ar 27 Chwefror, bydd Ben Lake AS yn cyflwyno Bil yn y Senedd er mwyn ceisio sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu gadael heb wasanaethau ariannol sylfaenol pan fo banciau'n cau.

Ben_Lake_Natwest.jpg

Mae cau cangen banc yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau ac mae'n medru arwain at anallu miloedd o bobl i gwblhau'r tasgau bancio mwyaf syml - megis talu siec mewn i gyfrif neu hyd yn oed godi arian parod o gyfrif.

Mae cymunedau gwledig wedi cael eu taro'n arbennig o wael dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cau'r banc olaf mewn rhai pentrefi a threfi wedi gorfodi pobl i deithio degau o filltiroedd i'r banc agosaf. Ynghyd â chysylltiad rhyngrwyd gwan, ac anallu cwsmeriaid i fedru bancio ar-lein, mae cwsmeriaid a busnesau cefn gwlad yn wynebu sefyllfa tu hwnt o dywyll.

Mae gan y Bil, sydd â chefnogaeth ASau o bob plaid wleidyddol, dair elfen iddi - mae'r elfen gyntaf yn mynd i'r afael â'r sefyllfa pan fo banc yn dal i weithredu; yr ail elfen pan fo banc yn ystyried y posibilrwydd o cau; a'r trydydd elfen pan fo banc eisoes wedi cau. Bydd y mesurau yn y Bil, a gaiff eu hamlinellu yn araith Mr Lake yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw, yn:

  • Ei gwneud hi'n anoddach i fanciau gau - trwy newid y 'Protocol Mynediad at Fancio' fel bod banciau'n gorfod rhoi ystyriaeth i'r pellter teithio i'w cangen agosaf - yn hytrach na pellter yn unig fel sy'n digwydd ar hyn o bryd - wrth benderfynu cau.
  • Creu 'Canolfannau Bancio Lleol' - Trwy newid y rheolau presennol, caiff banciau 'gyd-leoli'. Gallai hyn olygu bod mwy nag un banc yn medru rhannu safle a rhai swyddogaethau gweinyddol. Byddai hyn yn ei gwneud hi'n fwy cost effeithiol i fanciau lluosog barhau i fod ar agor mewn ardal.
  • Gwella a chynyddu'r gwasanaethau ariannol a gynigir gan Swyddfeydd Post - mae gan Swyddfeydd Post y gallu i gynnig amrywiaeth o wasanaethau bancio ar hyn o bryd - o dalu sieciau i godi arian o gyfrif. Ond nid oes gan lawer o ganghennau y seilwaith sylfaenol, cyllid a hyfforddiant i gyflawni'r gwasanaethau hyn yn effeithiol. Trwy fuddsoddi yn ein Swyddfeydd Post, gallai Llywodraeth San Steffan sicrhau bod 99% o gwsmeriaid manwerthu a 95% o gwsmeriaid masnachol, sydd â mynediad hawdd at gangen Swyddfa Bost, yn medru parhau i gael mynediad at wasanaethau bancio sylfaenol.

Cyn cyflwyno'r Bil yn y Senedd, dywedodd Ben Lake AS:

"Banciau yw calon ariannol ein cymunedau. Trwy gau canghennau ar y stryd fawr ar draws y wlad maent yn gadael cwsmeriaid heb unrhyw ddarpariaeth o gwbl.

"Mewn ardaloedd gwledig, mae pobl yn gorfod teithio degau o filltiroedd i'r banc agosaf. A chyda tanfuddsoddi yn yr isadeiledd band eang mewn ardaloedd gwledig, nid yw bancio ar-lein yn opsiwn i bawb ac o ganlyniad mae'r cymunedau hyn yn cael eu hamddifadu.

"Nid yw busnesau yn medru rhoi arian ar gadw; nid yw cwsmeriaid yn medru talu biliau - a'r gwirionedd yw, mae ein cymunedau ni'n dlotach o ganlyniad i hyn oll. Pobl hŷn, pobl agored i niwed a busnesau lleol bach sy'n dioddef fwyaf pan fydd banc yn cau. Dyna pam yr wyf yn cyflwyno datrysiadau y gall Llywodraeth San Steffan eu gweithredu ar unwaith.

 "Wrth gyflwyno'r dair elfen a amlinellir yn y Bil, gallwn sicrhau na all banciau ddiflannu'n rhwydd o'n cymunedau, a lle nad oes banc yn bodoli eisoes, gall cwsmeriaid gael mynediad at y gwasanaethau bancio sydd eu hangen arnynt yn haws drwy'r Swyddfa Bost.

"Rwyf hefyd yn cydnabod bod dulliau bancio pobl yn newid. Dyna pam yr wyf yn awgrymu newid y gyfraith er mwyn caniatáu i 'Ganolfannau Bancio Lleol' gael eu creu. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n fasnachol hyfyw i fanciau aros ar agor a hynny trwy rannu safleoedd a rhannu rhai swyddogaethau gweinyddol eraill.

"Cyhoeddodd RBS yr wythnos ddiwethaf elw o bron i filiwn o bunnoedd. Serch hynny, rhai wythnosau yn ôl bu iddynt gau 20 o ganghennau yng Nghymru a channoedd o ganghennau ledled y DU. Mae hyn yn profi eu bod yn rhoi elw cyn pobl, ac mae angen i hynny newid. Gyda'r cynigion hyn, gallwn sicrhau nad yn ninas Llundain yn unig y bydd y banciau'n goroesi."

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.